Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyhoeddodd yr un gwr dysgedig ei draethawd galluog ar "Gyfiawnder a Phenarglwyddiaeth;" ac yn mhen ychydig o flynyddau wedi hyny, cyhoeddodd argraffiad newydd o hono mewn ffurf wahanol. Cyhoeddodd Dr. Williams, hefyd, ychydig cyn ei farwolaeth, ei amddiffyniad cryf a rhesymol. i "Galfiniaeth Ddiweddar." Daeth amryw lythyrau o waith yr enwogion, Bellamy, ac Andrew Fuller, i ddwylaw amryw o weinidogion yr Annibynwyr yn ngogledd Cymru, yr amser hwnw, ac yn mysg eraill yr oedd Cadwaladr Jones yn astudiwr esgud ar y llyfrau a nodwyd; ac felly yr oedd cynud ychwanegol beunydd yn cael ei roddi ar y tân a gyneuasid eisoes yn ei enaid, ac ymawyddai fwyfwy am feddu syniadau cywir ar bob cangen o athrawiaeth y Beibl.

Nid Mr. Jones yn unig a symbylwyd y pryd hwnwi astudio duwinyddiaeth, ond llawer o frodyr eraill hefyd, y rhai a ddaethant yn raddol i weled yn eglur, nad oedd yr athrawiaeth a clwir yn Galfiniaeth, o'i hesbonio yn deg, yn cynnwys y pethau a roddid yn ei herbyn gan ei gwrthwynebwyr; ac nad oedd ei phleidwyr yn arfer ei hamddiffyn yn aml ar yr egwyddorion y dylasent wneuthur—hyny. Daeth y fath syniadau a'r rhai canlynol:—Bod Duw yn arfaethu goddef'i bechod ddyfod i'r byd ac aros ynddo.—Bod pechod o ran ei natur, yn rhywbeth cadarnhaol, megys rhyw wenwyn yn ngwaed dynoliaeth.—Bod etholedigaeth gras yn cynnwys gwrthodedigaeth.—Bod pwys, mesur, a therfynau i aberth y Cyfryngwr, a bod dyn heb allu o fath yn y byd i gydymffurfio âg ewyllys. ddatguddiedig yr Arglwydd; do, meddwn, daeth syniadau fel y rhai uchod i ymddangos yn ynfydrwydd perffaith yn ngolwg Mr. Jones a'r ysgol newydd hon o dduwinyddion Cymreig. Ymddengys fod y dadleuon diweddar yn erbyn yr Arminiaid wedi gwneud yr enwadau Calfinaidd yn Nghymru yn fwy of Galfiniaid nag yr arferent fod yn gyffredin; ond pan ddaeth yr ysgol Galfinaidd newydd, trwy ddarllen a myfyrio, pwyso a barnu, y gwahanol olygiadau oedd yn y wlad, yn wyneb. gair Duw, i weled a theimlo fod y tir y safent hwy eu hunain arno yn un cadarn a disigl, dechreuasant gyhoeddi eu golygiad-