Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn berffaith bechadurus. 2. Am y priodolir hyn i Dduw yn unig. "Duw, yr hwn a orchymynodd i oleuni lewyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist." 2 Cor. iv. 6; Eph. v. 8. "Chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau," Eph. ii. 1—5. "A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cymmododd ni âg ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod," 2 Cor. v. 18. "Canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 13. "Nid o'r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith; ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau," Rhuf. ix. 16. "Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hyny nid o honoch eich hunain; rhodd Duw ydyw," Eph. ii. 8. Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddiuchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dad y goleuni, gyda'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth," Iagoi. 17. "Myfi a blenais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd. Felly nid yw yr hwn sydd yn planu ddim, na'r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw yr hwn sydd yn rhoi y cynnydd," 1 Cor. iii. 6, 7.—Y mae pob dyn yn sicr o weithredu yn ol tueddiadau llywodraethol y galon; a chan fod tuedd llywodraethol yr enaid yn unig yn ddrygionus bob amser, ni thardd o'r fath ffynnon fudr ddyfroedd gloywon, megys caru Duw, credu yn Nghrist, &c., heb i law Duw achosi y cyfryw. Y mae priodoli yr achos i ddyn o hono ei hun yn arwain i gamgymeriadau mawrion; sef bod y rhai sydd yn edifarhau, caru, a chredu yn Nghrist, neu yn defnyddio moddion achub, heb syrthio mor ddwfn ac eraill trwy y cwymp; neu mai damwain ydyw eu bod yn eu defnyddio: neu ynte fod gan ddyn y fath arglwyddiaeth ar ei ewyllys (self determining power) fel y mae yn ei thueddu at y da a'r drwg yn ddiwahaniaeth, yr hyn y mae wyneb yr ysgrythyrau yn ei erbyn, a natur pethau yn profi i'r gwrthwyneb.

4. Y mae yr Etholedigaeth hon yn hollol ddidderbyn wyneb. Y mae amryw yn tybied fod Etholedigaeth yn dder-