Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

byn wyneb, yr hyn a feiir mewn dynion, ac a wedir yn perthyn i Dduw; a diammau genym fod R. J. o'r farn hon. Gwel tudal. 363, bl. 1846. Wrth sylwi ar Act. x. 37, dywed, "Y mae yr ymadrodd hwn yn rhoi ar ddeall i ni fod Pedr yn tybied y buasai Duw yn dderbyniwr wyneb pe buasai yn ethol yr Iuddewon ac yn gadael y cenhedloedd; yna buasai Duw yn dderbyniwr wyneb yr un modd pe buasai yn ethol rhai personau a gadael personau eraill cyn seiliad y byd." Yn ol y dywediad hwn, y mae R. J. yn rhwym o briodoli i Dduw, dros dymmor yr oruchwyliaeth Iuddewig, yr hyn a ystyria efe yn annheilwg o hono, sef derbyn wyneb, trwy ethol yr Iuddewon a gadael y Cenhedloedd dros holl dymmor yr oruchwyliaeth hono; ac os oedd yn gyson â'i gymmeriad fod yn dderbyniwr wyneb fel hyn dan yr oruchwyliaeth hono, gall fod yn gyson â'i gymmeriad yn awr, ac am byth. Ond nid yw Duw dderbyniwr wyneb. "Nid oes derbyn wyneb ger bron Duw," Rhuf. ii. 11. Nid ethol un a gadael y llall yw y derbyn wyneb y sonia Pedr a Phaul am dano, ond cymeradwyo yr Iuddew yn ei ddrwg am ei fod yn Iuddew, a gwrthod y cenedlddyn rhinweddol am mai cenedlddyn ydoedd. Derbyn wyneb, gan hyny, ydyw cymeradwyo un drwg am ei fod yn perthyn i ni, neu mewn sefyllfa uchel yn y byd; a gwrthod neu annghymeradwyo un da am ei fod yn dlawd, neu heb fod yn perthyn i ni. Ond nid yw Ethol— edigaeth yn derbyn wyneb neb; cafodd hi bawb yn yr un cyflwr, heb neb yn wynebu at Dduw am eu bywyd, ond yn cwbl gefnu arno yn ddieithriad. Ni chafodd le i wrthod neb, ac ni fwriadodd achub neb o herwydd unrhyw wahaniaeth rhyngddynt o ran cyflwr, sefyllfa, na gwaedoliaeth; ac nid yw yn gosod un rhwystr ar ffordd neb i ddychwelyd at Dduw; a phe deuai rhyw un at Iesu Grist am ei fywyd o hono ei hun, ni ddywedai etholedigaeth un gair yn erbyn ei gadw. Ond yn yr olwg ar bawb yn cefnu ar ddedwyddwch, ac yn sicr o ddinystrio eu hunain am byth—o'u rhan eu hunain—y mae hi wedi penderfynu dwyn tyrfa ddirif at Iesu fel y caffont fywyd.