ar y ffordd i'r gwaith ac o'r gwaith; a chyfansoddai'r cwbl cyn gosod nodyn ar bapur. Wedi cyrraedd y tŷ, gofynnai am y llyfr, ac yna ysgrifennai y pedwar llais heb na blot na scratch arno."
Bydd yn llawenydd gan y darllenydd ddeall nad yw'r Awen wedi gadael John Thomas yn ei henaint. Fel hyn yr ysgrifenna at Emlyn yn 1912:
"Wedi gorffen honno (anthem) yr oedd geiriau 'Bendigedig yn hofran yn fy meddwl ar fy ngwaethaf, a rhyw frawddegau yn gwthio eu hunain arnaf, fel yr oedd yn amhosibl cael llonydd. O'r diwedd es ati i'w rhoddi i lawr, a bob yn dipyn yr oeddynt yn chwyddo, a'r diwedd fu ceisio eu rhoi at ei gilydd, a'u trefnu goreu gallwn."
Y mae'r darllenydd wedi sylwi fod Emlyn yn cyfeirio at brofiadau cyffelyb yn ei lythyrau—e.g.:
"Mae defnyddiau Rhangân fechan Saesneg yn rhedeg yn fy mhen yn awr, fel nas gallaf wneud nemawr o ddim nes eu rhoddi ar ddu a gwyn." Mewn un arall cyfeiria at "symudiadau bychain yn ei ben yma a thraw"—yr esgyrn heb ddod at ei gilydd eto; ac mewn ateb i gais ei gyfaill (Dd. Lewis) am anthem i blant, dywed fod ganddo un "yn ei feddwl" ac y "daw allan " yn fuan—nid allan o'r wasg bid siŵr, ond o'r gweithdy mewnol. Wele enghraifft arall o un o'i lythyrau at Mr. D. W. Lewis, Brynaman:—
"D oedd yr un anthem a ysgrifennais i'r llyfr newydd (y Caniedydd) yn fy moddio, nac un o'r tonau ysgrifennais ar Eisteddal teithiwr blin,' ond yr oedd y geiriau yn fy nilyn o hyd, a nos Sul—ganol y nos—y wraig yn cysgu, y forwyn yn chwyrnu, y gath yn mynd dros ei brwydrau