"Fel hyn, tra y gwrthwynebwn ddygiad ein hen alawon cenhedlaethol i fewn i'r gwasanaeth cysegredig, yn ogystal a thônau o ddosbarth Lingham a Diadem, gwnawn hynny am resymau gwahanol. Fel cerddoriaeth, h.y, ynddynt eu hunain, y mae nifer fawr o'n halawon cenhedlaethol yn bur ac uchel—hyd yn oed 'Glân meddwdod mwyn,' 'Megan a gollodd ei gardas,' 'Bugeilio'r gwenith gwyn,' &c. —a gwrthwynebwn hwynt yn unig o herwydd eu cysylltiadau a'u hatgofion, ac am nad ydym yn credu o gwbl fod unrhyw alwad i'r cysegr i'w hechwyna, pa un ai gwir ai peidio i Rowland Hill, neu rywun, ddweyd 'fod y gerddoriaeth oreu gan y diafol.' Gwrthwynebwn y tônau a berthynant i'r dosbarth olaf, am eu bod yn waelion wrth natur, o arddull isel ac iselhaol, yn anfri i ni fel cenedl gerddorol a chrefyddol, yn cael eu condemnio er's blynyddau bellach. gan gerddorion goreu pob cenedl ddiwylliedig, yn hollol anaddas i'r amcan, ac yn anheilwng o'r urddas a'r parch sydd yn unig yn gweddu i fawl y cysegr."
Am donau Emlyn ei hun, dywed Mr. Jenkins:— "Gellir dweyd ei fod yn nes ei arddull yn ei dônau i Ambrose Lloyd ac Ieuan Gwyllt nac i Dr. Parry neu rai o'r cyfansoddwyr Cymreig eraill. Nid oes dim o'r elfen fasweddaidd neu faledaidd ynddynt fel sydd yn rhai o donau Parry a rhai o'r cyfansoddwyr ieuainc. Nis gwyddom am gymaint ag un dôn o'i eiddo a genir yn y trên, neu mewn cerbydau, wrth fynd a dod o Eisteddfodau a Chymanfaoedd Canu, ac y mae hynny'n brawf lled dda mai tônau i'r Cysegr ydynt ac nid i'r dafarn. Wrth gwrs mae yna dônau rhagorol gan Dr. Parry ond fod gormod o'r elfen fal-