demnio myn'd i'r Chwareudy, tra ar yr un pryd yn caniatau afreoleidd—dra yn ein tai o addoliad mewn cysylltiad a Chyngherddau, Eisteddfodau, &c., na oddefid mewn unrhyw Chwareudy trefnus."
Cawn yr un gŵyn yn ei lythyrau. Mewn llythyr at Mr. D. Jones, Commercial Road, Llundain, gofynna:
"A oes gysegredigrwydd y fath beth y dyddiau hyn hogiau (a llancesau!) hanner meddw a thrythyll yn bloeddio 'Bydd myrdd o ryfeddodau,' yn gymysg a chaneuon Seisnig iselwael yn ein haddoldai ac wrth fynd a dychwelyd yn y tren!"
Dengys yr hanesyn a ganlyn ei fod yr un mor bendant yn erbyn cyffredineiddio pethau cysegredig mewn ffordd arall; a'i fod yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau. Mr. Jones, Van, sydd yn ei adrodd:
"Dyma ddigwyddiad bychan ag y bum i fy hun yn llygad—dyst ohono, ymhlith miloedd eraill yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno. Yr oeddwn i yn eistedd wrth fwrdd y Gohebwyr, ac felly yn gyfleus i weled a chlywed y cwbl. Dydd Iau, diwrnod y Cadeirio, ydoedd, a phan yr oedd y Pavilion dan sang i weled y seremoni, gwelwn rywun yn estyn nodyn i Cynonfardd yr Arweinydd. Daeth a'r nodyn yn ei law i'r ffrynt, a darllenodd ef, 'Cais oddiwrth nifer o Gymry o'r America am i'r holl gynulleidfa gytganu Aberystwyth a Crugybar o dan arweiniad Mr. Emlyn Evans' (cymeradwyaeth hir—faith). Ar hynny, gwelwn Mr. Emlyn Evans yn codi o'i sedd ymhlith y Beirniaid, a thybiai pawb mai dod ymlaen i arwain yr oedd, a pharotoem i ganu gyda'n holl egni. Ond yn lle hynny, meddai, Mr. Cadeirydd, ar hyd fy oes, trwy'r wasg, ac yn gyhoedd, yr ydwyf wedi gwrthdystio yn erbyn yr