iongyrch gyda Chaniadaeth y Cysegr nes dod yn ol i fyw i Gymru eilwaith. Pan yng Nghemes, a'i iechyd a'r tywydd yn caniatau iddo gerdded i Nebo, nid yn unig canai'r harmonium yno, ond ni allai lai na chymryd baich y canu ar ei gefn llesg ei hun. "We have had a charming day," meddai wrth ei gyfaill Dd. Jenkins, "and I was able to walk to and from our little Nebo, as well as thump, shout, and carry some cart-horse tunists on my back when there; however, a cup of coffee, a smoke, and a little rest have put me 'as we were' once more."
Bu'n arwain nifer o Gymanfaoedd Canu; ond y mae'n amlwg nad allai un a ysid yn gorfforol gan brynhawn yn 'Nebo fechan' ddal pwys a gwres y Gymanfa'n dda. Heblaw hyn, deuai i wrthdarawiad â'r corau parth y modd i ganu. Gwyddis ei fod ef—fel y dywed Mr. Harry Evans—yn ffafrio 'purdeb' mewn canu yn fwy na 'rhyferthwy,' tra mai tuedd y Cymro yw ffafrio'r olaf—" hwyl at any price." Nid ei fod yn ceisio gwneuthur i ffwrdd â theimlad, bid siwr, yn gymaint a rhoddi iddo ei le—fel gwas da yn hytrach na meistr drwg.
Mwynhai'r awel pan ddeuai hi i lenwi'r hwyl a helpu'r gân—nid i gipio'r bad cerddorol o'i blaen.
"Caed hwyl ar Dref—hedyn," meddai, "o dan fy nyrnau: dywedais wrth y bobl mai arnynt hwy yr oedd y bai—mai nid fy arfer oedd mynd i lawer o hwyl uwchben fy ngwaith fy hun; a chwerthinwyd yn iachus. Deallais wedyn y gosodent y cap i ffitio ar ben,—er nad oedd ef na neb arall yn fy meddwl ar y pryd." Dro arall, pan aeth yr awel yn rhyferthwy, a phan gollwyd meddwl mewn 'mynd' y ganmoliaeth a gafodd y Côr oedd Dyna hwyl, beth bynnag!'