Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'wobor' na 'bobol' na 'temel' na'u cyffelyb, ac hyd o fewn y dyddiau diweddaf hyn, nid oedd un Cymro deallus o bulpud nac allan ohono a ddywedai y fath eiriau; ac ni phenderfynodd Elfed a Dewi Mon ar y fath orgraff benchwiban hyd y foment ddiweddaf—yn wir, ar ol i'r emynau gael eu danfon i Novello yn y lle cyntaf. Bid siwr, y mae y geiriau uchod, a 'sicr', 'deigr' &c., yn ymarferol yn rhai deusill, ac i'w canu felly: sic—r, deig—r (neu dei—gr) fel ag y cenir ac y canwyd hwy erioed gan bob canwr chwaethus; ac os daw neb, nac unawdydd na chor, o'm blaen i, i ganu 'bobol', 'temel' gwnant hynny ar eu perygl."

Tebig ei fod yn tybied fod tric wedi ei chware ag ef ynglŷn ag orgraff y Caniedydd cyntaf, ond ni chymerai ei ddal yr ail dro. Yng Ngorffennaf 1899 ysgrifenna:

"Y mae gan Elfed grank newydd yn awr—Beibil. Hysbysais ef nas gallaf ganiatau hyn—rhaid i ni arwain a beirniadu y rhai hyn eto; ac nid sillebiaeth ac ynganiaeth plwyfiaid anllythyrenog sydd i fod yn safon. Ni cha'r profleni hynny fynd oddiyma hyd nes y setlir y peth yn foddhaol.

Yr oedd Bol (Bo—bol) yn llyfr I. yn bur gryf, ond y mae Bil yn hwn eto yn ormod o ddogn i'w lyncu!" Y mae'n werth rhoddi ei eiriau olaf ynghylch dewis a mabwysiadu Tonau Cynulleidfaol ar gof a chadw—geiriau a ysgrifennwyd yn ei fisoedd olaf at Mr. Emlyn Jones—nid yn unig am eu bod yn dangos ei degwch ato'i hun a thuag at eraill, ond hefyd am eu bod yn mynegi ei olygiad—a gaiff ein sylw eto—fod deddf "Goroesiad y Cymhwysaf" (Survival of the Fittest) i weithredu ym myd cerddoriaeth:—