gyferbyniol o ystyried yr oll o'n melodion cenhedlaethol, o herwydd rheoleidd-dra eu cyfansoddiad, a'u graddfa ddiatonaidd berffaith, fel cynyrchion cymhariaethol ddiweddar, gan anghofio y ffaith fod ein meddianiad o offeryn fel y delyn, yr hon sydd yn hanfodol ddiatonaidd, yn rhwym o fod wedi effeithio ar arddull ein cerddoriaeth, yr hon hefyd sydd yn hanfodol ddiatonaidd, a'r hon sydd yn dra gwahanol i'r anwastadrwydd, a'r anghyflawnrwydd graddfa a welir yng ngherddoriaeth genhedlaethol Ysgotaidd a Gwyddelig." Credai fod y fath beth yn bod a Cherddoriaeth Gymreig yn y presennol, ac i fod yn y dyfodol, am fod y genedl yn gerddorol. Dyma'r ffynhonnell—anianawd y genedl—y daw yn ol ati wrth geisio cyfrif am y ffrwd:—
"Pe bae y cwestiwn 'paham y mae cerddoriaeth wedi cymeryd gafael mor gryf yn ein cenedl' yn cael ei ofyn, nid ydym yn sicr y gellid ei ateb yn hawdd ac i foddlonrwydd. Rhai a briodolent y ffaith i ffurf a natur ramantus y wlad—" ei glynoedd teg a'i bryniau ban;" eraill i'r anianawd, y ddawn gynhenid â pha un y doniwyd y Cymro gan Roddwr pob da; ac eraill â ant cyn belled a'i pharabliad unffurf ac agored, &c. Ond y mae y nodweddion hyn i'w canfod yn fwy neu lai amlwg yn yr Alban a'r Iwerddon, eu preswylwyr, a'u hieithoedd; ac er fod y gwledydd hyny wedi cynyrchu cerddorion galluog o bryd i bryd—wedi cynyrchu yn wir gyfansoddwyr uwch nag y mae Cymru wedi wneud hyd yn hyn—nid oes neb a fyntumia fod cerddoriaeth wedi ymgartrefu ymhlith pobl yr Iwerddon neu Ysgotland yn debig i'r fath raddau ag yn ein gwlad fechan ni.