"Y mae'n sicr fod Cymru wedi bod ar ei hennill drwy yr offerynau cerddorol a fabwysiadodd fel ei rhai cenedlaethol, yn bur foreu yn ei hanes—sef y delyn a'r crwth yn benaf; a'i gwrthodiad o'r bibgôd grâs ac ystwrllyd a dderbyniwyd i ffafr gan yr Ysgotyn a'r Gwyddel. Ond effeithio'n fwyaf ar natur a ffurf ein cerddoriaeth wnaeth hyny—ei gwneud yn felodaidd ac amrywiaethus, ac nid creu yr awyddfryd at gerddoriaeth ynddi ei hun; rhaid fod y duedd a'r gallu i ddewis yr offerynnau goreu a gwrthod y rhai israddol yno eisoes. Rhaid cymeryd y ffaith fel y mae o'n blaen sef fod y ddawn gerddorol yn meddiant y genedl, ac wedi ei hachlesu a'i hymgeleddu ganddi i raddau mwy neu lai am oesau ac hyd yr amser presennol."
Gwelsom uchod mai prif nodweddion ein halawon cenedlaethol yw "eu naturioldeb a'u melodedd," "a dyna hefyd deithi amlwg ein cerddoriaeth oreu yn bresennol yn ei hanfod." Ni chaniata mai "dash and go"—tân a mynd—yn ol barn cerddor Seisnig enwog, yw prif nodweddion ein cerddoriaeth genedlaethol: "rhaid fod ei gydnabyddiaeth â hi," meddai, "yn gyfyngedig i'n tonau milwrol, oherwydd yn ychwanegol at rai gyda' thân a mynd' y mae gennym lawer o engreifftiau gwych, o'r teimladol, bugeiliol, teuluaidd, serchiadol, &c."
Ar y llaw arall nid cerddoriaeth o nodwedd alarus ydyw:
"Hynodrwydd perthynol i'n hen gerddoriaeth gysegredig yw y ffaith ei bod ymron yn hollol, neu o leiaf gryn gyfran o honi, yn y cywair lleiaf, a phan yr awn trwy dudalen ar ol tudalen o'n hen Dônau ac Anthemau, o brin y cyfarfyddwn â dim