ymron, ond rhyw gwynfan diddiwedd o amgylch ychydig nôdau o'r raddfa leiaf—rhywbeth nid annhebyg i'r 'hwyl' bregethwrol adnabyddus; effeithiol iawn mewn cerddoriaeth yn gystal ag mewn pregethwriaeth, pan yn apropos a diragrith, ond nid pan yn cael ei throtian allan er mwyn arddangosiad, mewn tymer ac allan o dymer. Ystyria rhai fod уг ansawdd alarus yma yn nodwedd a berthyn i gerddoriaeth Gymreig yn gyffredinol, ond yn sicr nid ydyw felly, ac os archwilir ein halawon cenedlaethol, ceir fod ein cyn-deidiau yn llawer mwy tueddol yn eu cerdd—wead i'r cywair mwyaf gwrol a happus, nag i'r lleiaf prudd a chwynfanus. Eraill a dybiant ei fod i'w briodoli i'r ffaith ein bod yn genedl orchfygedig, ' yn griddfan dan iau galed y Saeson,' yng ngeiriau Ieuan Brydydd Hir; on yr ydym wedi bod yn gwneud y griddfan' hyr er's 600 mlynedd a rhagor, ac eto yn ystod yr amser hwnw yr ydys wedi cynyrchu peth o'r gerddoriaeth fwyaf bywiog a fedd y byd! Ymddengys i mi nad yw y neillduoldeb hwn ond un o dyfiad cymhariaethol ddiweddar, i'w briodoli efallai i'r Buritaniaeth eithafol a gymerodd y fath afael ar y bobl ar adeg neillduol, a'r hon pa mor ddaionus bynag a allai fod mewn ystyr grefyddol, nas gallai lai nag effeithio andwyol ar y gelfyddyd gerddorol, a'r hon sydd ryddfryd ledan ei breichiau hyd yn oed yn y mater o weiriau a moddau."
yn
Ymfalchiai hefyd yn y ffaith fod cerddoriaeth ei wlad yn graddol ymgyfoethogi:
"Yn ychwanegol at yr alawon cenedlaethol hyn, yr ydym yn meddu nifer luosog a chynyddol o alawon neu ganeuon diweddar, ac yn eu mysg lawer nac