Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XX.
YR EISTEDDFOD.

DAETH Emlyn y tu fewn i gylch swyn yr Wyl Genedlaethol yn gynnar, ac arhosodd yno. Ni flinai ddweyd mai plentyn yr Eisteddfod ydoedd. Yr oedd yr anianawd genedlaethol yn gryf iawn ynddo, a hyn i raddau pell oedd yn cyfansoddi swyn yr Wyl iddo—cai'r anianawd hon anadlu ei hawyrgylch ei hun yno'n fwy na nemor un man arall.

Ond yn raddol yr addfedodd ei olygiadau ynghylch lle a swyddogaeth yr Eisteddfod, ac ni fydd ei Gofiant yn llawn heb inni daflu brasolwg ar y rhain—yn neilltuol ar eu perthynas â Chaniadaeth Genedlaethol. Ar esgynlawr yr Eisteddfod, ac yna yn ei feirniadaethau a'i ysgrifau, y deuai ef yn ei flynyddoedd olaf i gyffyrddiad â chaniadaeth fydol ei gydgenedl. Yr oedd ei pherffeithiad hi fel cyfrwng datblygiad y ganiadaeth hon yn ddiameu yn un o brif fuddiannau cyfnod olaf ei fywyd. Profir hyn gan ei gyfeiriadau cyson yn Y Cerddor.

Iddo ef yr oedd y fath beth yn bod a dyletswydd Eisteddfodol:

"Y mae'r Eisteddfod wedi ei throsglwyddo i ni fel sefydliad, gan ein blaenafiaid; a'n dyledswydd ninnau yw bod yn ffyddlon i'r ymddiriedaeth drwy ei chadw yn ei phurdeb cynhenid, a'i throsglwyddo felly, heb un ystaen ar ei chymeriad i'r rhai ddeuant ar ein holau. Bradwr ei wlad yw'r enw atgas ar yr