hwn a wertha ei genedl, neu na wna yr oll fydd o fewn ei allu i'w hamddiffyn, ac a ymochra o du ei hymosodwyr; a drwg-weithredwr yng ngolwg y gyfraith yw yr ymddiriedolwr sydd yn euog o gamwri o barth i'r hyn a ddodwyd dan ei ofal. A ydym ni yn y dyddiau hyn yn rhydd yn y cysylltiad hwn mewn perthynas â'r Eisteddfod? Y mae arnom ofn nas gallwn bob amser roddi atebiad cadarnhaol i'r cwestiwn.
"Hwyrach y myntumir gan rai ein bod yn cymeryd tir rhy uchel yn hyn o fater; ein bod yn edrych ar yr Eisteddfod mewn dull rhy gaeth a cheidwadol. Efallai hynny, a rhaid i ni gyfaddef mai byr yw ein hamynedd erioed wrth y rhai a wnant yr Eisteddfod fel math o ffair; os nad ffair ffyliaid, ffair i ymwageddu a chael jolly fun ynddi. Ar yr ochr arall, yr ydym bron mor wrthwynebol pan wneir ymgais i'w gwneyd yn fath o gwrdd gweddi, neu bregethu, gan ddwyn pethau y cysegr i mewn i'w gweithrediadau. Y mae iddynt hwy eu lle a'u gwaith priodol, ac ystyriwn eu bod yn llawer rhy santaidd i'w defnyddio i unrhyw bwrpas arall. Honnwn y dylai yr Eisteddfod fod yr hyn fwriadwyd, sef, yn fyr ac yn syml, sefydliad diwylliadol—mewn llenyddiaeth, barddoniaeth, celfyddyd, a chân; dim mwy, a dim llai. Bid siwr, nid ydym mor gul-feddwl a digynyddol a honni nad yw i ymddatblygu, ac y rhaid iddi aros am byth yn yr un man; ond nid yr un peth yw dadblygiad â gŵyrdroad neu iselhad."
Wrth amddiffyn yr Eisteddfod, hoffa gyfeirio at ei ffrwythau. Er enghraifft:
"Tua chanol y ganrif bresennol yr ydym yn dyfod i gyffyrddiad agos a'r hyn a ystyriaf y prif