allu yn hanes ein datblygiad cerddorol—yr Eisteddfod. . . .Nis gall unrhyw fesur o fychanu wneud ymaith a'r ffaith ei bod yn y deugain mlynedd diweddaf (1850—1890) wedi bod yn famaeth i gerddoriaeth yng Nghymru, ac nad oes nemawr i gyfansoddwr, canwr, neu offerynwr Cymreig o bwys nad yw yn ddyledus iddi am ei ddyrchafiad cyntaf yn y gelfyddyd."
Nid hawdd cael gwell amddiffyniad i gystadleuaeth na hyn:—
"Cwynir yn fynych y dyddiau presennol fod gormod o arholi, a gormod o redeg ar ol urddau a graddau yn ein plith, mewn cysylltiad ag addysg gyffredinol yn gystal a cherddoriaeth; ac yn wir, rhaid addef fod golwg chwerthingar ar aml i baragraff newyddiadurol, rhwng y teitlau a'r rhesi o briflythrennau a addurnant eu perchenogion trwmlwythog. Os mai enill yr hawl i wisgo y mân deganau a'r ffriliau yma oedd amcan pennaf yr arholiadau a basiwyd a'r ysgoloriaethau a enillwyd, yn hytrach na chynyrchu dynion deallgar a gwybodus, meddiannol ar feddwl a chymeriad uwchraddol, yna o brin y gellid honni fod y dybenion uchaf wedi eu cyrhaedd. Ac yn gyffelyb gyda chystadleuaeth yr Eisteddfod. Fel moddion i ddangos ei safle gymharol i gystadleuydd, a'i wneud i sylweddoli sefyllfa wirioneddol pethau y tu allan i'w gylch bychan ei hun, o leiaf, nis gall cystadleuaeth lai na bod yn ddaionus ac addysgol cyn belled ag yr â, h.y., a chymeryd yn ganiataol, bid siwr, fod y sawl a ânt trwy y prawf yn feddiannol ar y peth hanfodol hwnnw a elwir synwyr cyffredin. Ond fel ag yr awgrymwyd uchod, os nad yw y cystadleuydd, pa un ai cânwr, chwareuwr, awdwr, neu gôr a fydd, yn