teimlo unrhyw gymhelliad uwch na'r awydd i ennill gwobr a chlod, a goruchafiaeth ar arall, yna y mae'r Eisteddfod yn cael ei chamddefnyddio yn resynus." Ond dyma fel y condemnia bla gwibed y gelain (parasites) ynglŷn â'r ŵyl—
"O'r cyfryw y mae yr arweinyddion a'r corau a dyrrant yn llu i gystadlu, os mai hen ddarn tra adnabyddus er's blynyddau fydd yn destun cystadleuol, ond a gadwant yn ddigon pell os mai rhywbeth newydd fydd—nid yw diwydrwydd nac ymgais y corau hyn, mwy na gallu a thalent eu harweinwyr, yn ddigon i'w harwain yn uwch na'r llwybrau ydynt yn gochion eisoes gan draed y rhai a'u gwnaethant yn hen gynefin flynyddau lawer yn ol. Dyma'r sefyllfa a achosodd un o'r beirniaid Eisteddfod y Fenni, ddydd Llun y Pasc, i ddweud wrth gyfeirio at y nifer gymharol fechan o gorau (tri) oeddynt yn cystadlu am y brif wobr, eu bod trwy eu datganiad rhagorol o ddarnau da, ond anystrydebol, wedi gwneud llawer pwysicach gwaith dros Gymru a cherddoriaeth Gymreig, na phe bae tri-deg o gorau yn canu darnau oeddynt wedi eu canu i farwolaeth eisoes.' O'r cyfryw ddosbarth dynwaredol hefyd y mae unawdwyr y champion solo' neu yr herwobr,' pa rai, gyda'r pwyllgorau digydwybod—serch eu phylacterau llydain yn fynych—ydynt yn eu porthi, a roddant ddyrnodau trymion rhyngddynt i gerddoriaeth eu gwlad enedigol. Cyfarfyddir â'r crwydriaid hyn ar eu 'hapus heldir' yn eu gwahanol feusdiroedd, De, Gwynedd a Chanolbarth; a phan esgynnant y llwyfan, prin angenrheidiol yw gofyn enw y gân, oherwydd bychan i'w ryfeddu yw stoc y cyfeillion yma—rhyw un neu ddwy o ganeuon ar y goreu, ar y