Yr un modd gyda Chaniadaeth: yr oedd byth a hefyd yn annog, rhybuddio ac ysbardynu pwyllgorau a chystadleuwyr i fwy o ehangder. Cymer fantais hyd yn oed ar lwyddiant y corau Seisnig ac Eistedd—fodau'r Saeson i wneuthur hyn:
"Bu rhai o'n beirniaid yn cyhoeddi rhybuddion am flynyddau, ac yn dweyd wrth bobl mai nid curo ar y lleisiau, heb nemawr os dim disgyblaeth a chyfarwyddyd, oedd canu; ac mai nid rhygan ar yr un darnau yn dragyfyth, heb ymgydnabyddu a gwahanol weithiau pob arddull a chyfnod oedd y llwybr arweiniai i wir gynnydd."
Yr hyn sydd i'w ddysgu oddiwrth Eisteddfodau'r Saeson yw hyn:
Yn gyntaf, ac yn bennaf peth, nid yw maint y wobr ond mater hollol ail-raddol. Yna, nid ydynt yn cyfyngu eu testynau i Ysgol neillduol o'r prif feistri, na gweithiau neillduol o'r eiddynt, megis y 'Messiah,' Elijah,' &c.; ac i ychydig anthemau, canigau, neu ranganau mwy neu lai arwynebol, a mwy neu lai ystrydebol, a hen, hen adnabyddus. Ond ant am eu dewis i fysg cerddoriaeth hen a diweddar, Prydeinig a thramor, pa le bynnag y ceir mater a fydd o'r safon a'r teithi a gyfarfyddant a'u gofynion. Telir sylw arbennig i gerddoriaeth offerynnol, unawdol a cherddorfaol. . . . Ac hynod iawn! y maent mor ddysyml a hen ffasiwn ag i ystyried nas gellir disgwyl neb i ddarllen yn briodol heb iddo ddysgu ei lythyrennau yn gyntaf, ac felly, nid ydynt yn esgeuluso dodi testynau ar ddarlleniadaeth gerddorol ddifyfyr yn eu rhagleni." Y mae yn y dyfyniad hwn gyfeiriad at bwynt arall yr hoffai'i bwysleisio, sef trylwyredd, a'r ffordd ato—