XXI.
Y BEIRNIAD.
MAE eisieu cyfuniad arbennig o alluoedd i wneuthur beirniad da; a galluoedd arbennig wedyn i wneuthur beirniad da ar ddatganu. Mewn erthygl o'i eiddo ym mywgraffiad Tanymarian—ymysg y galluoedd hyn—noda wybodaeth, a honno'n ymarferol; y gallu i weled pwynt darn; clust deneu; pen clir (ar y pryd); gallu i ffurfio barn bendant; ac yna y gallu i'w mynegi gydag awdurdod ac eglurder.
Mewn llythyr o'i eiddo at Mr. D. W. Lewis, geilw sylw at y ffaith fod cynheddfau meddyliol y gwir feirniad (wrth feirniadu) ar lawn waith:
"Yr wyf wedi cael deugain mlynedd o feirniadu erbyn hyn, ac wedi dod yn groendew er's peth amser. Nid yw yn debygol fod pedwar neu bump ohonom wedi mynd ar gyfeiliorn yn ein barn. Heblaw hynny, y mae yna wahaniaeth mawr rhwng barnu oddiallan—heb gerddoriaeth efallai—a barnu'n swyddogol, pan y mae eich holl alluoedd mewnol ar lawn waith."
Cawn yr un gyferbyniaeth yn yr hyn a ganlyn:—
"Ar y cyfan, tueddir ni i feddwl mai yr un sydd yn derbyn y mwynhad mwyaf oddiwrth wrando ar gerddoriaeth, a hyny gyda lleiaf o drafferth, yw y gŵr nad yw yn gwybod nemawr yn feirniadol am gydsain nac annghydsain, am ffurf na dosbarth, am lais nac offeryn, ond sydd yn eistedd trwy y perfformiad gan wrando ar unawd, a chytgan, overture, a symphoni, gyda llygaid cauedig, a synwyrau yn nofio mewn ded-