Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyddwch, yn sirioli wrth gyweirnodau llon, ac yn pruddhau wrth rai lleddf, yn gwenu wrth draws-gyweiriadau—er na ŵyr paham—ac yna a â allan i'w waith fore trannoeth gyda llaw ddiysgog a wynebpryd siriol, i ail-fwynhau eto yn ei feddwl y pleser a dderbyniodd neithiwr, neu hwyrach i hymian neu chwibianu darnau o'r alawon fedr gofio, yn ei ffordd ei hun—ac un ddigon amherffaith lled debig, mewn ystyr gelfyddol, ond un ddigon boddhaol iddo ef serch hyny. Bid siwr, nid dyma'r mwynhad uchaf ag sydd yn ddirnadwy—y mwynhad hwnnw a syrthia i ran y cerddor diwylliedig, coeth ei chwaeth, teneu ei glust, effro ei feddwl, ac eang ei ddeall, i'r hwn y mae dirgelion pob cord, ansoddau pob offeryn, a nodweddion pob ffurf ac arddull wedi eu gwneyd yn hysbys; ond tra nas gellir rhifo y rhai hyn ond yn unigol, gellir cyfrif y lleill wrth eu canoedd a'u miloedd."

Ymddengys fod y galluoedd hyn, a'r gallu i'w defnyddio—i'w gosod ar "lawn waith "—ym meddiant Emlyn i raddau eithriadol.

"Ef," ebe Harry Evans, "heb os nac onibâi, oedd y beirniad cerdd mwyaf a gododd Cymru, ac yr oedd y reddf feirniadu ynddo i raddau helaeth anarferol. Ef oedd y beirniad medrusaf a gwrddais i. Yr oedd yn effro, yn sicr ei feddwl, ac yn gyflym i brisio gwerth perfformiad; ac fel beirniad ar gyfansoddi, 'd oedd mo'i hafal yn ein mysg." "Gallaf ddweyd gyda'r sicrwydd mwyaf," meddai Mr. Owen Jones, "mai ef oedd y beirniad medrusaf a gododd ein cenedl," a dyfynna ran o lythyr a gawsai'n ddiweddar oddiwrth Dr Macnaught, lle y dywed: "I had a great regard for Mr. Emlyn Evans. He was