Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/204

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iadol, ac am flynyddoedd, ef oedd y prif feirniad ar y gwobrwyon a gynhygid gan Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n ddiwyd a ffyddlon fel adolygydd yn y cylchgronau cerddorol. Ni chredai mewn beirniadaethau hirwyntog ar lwyfan yr Eisteddfod, ond datganai farn mewn iaith glir, yn wastad i'r pwynt, a chyda digon o awdurdod tu cefn i'w ddyfarniadau. Nid un o'r beirniaid 'ffigyrol' mohono fo, gan y credai (ac yn gywir fel y barnaf fi) na ellir dwyn celfyddyd lawr i wyddor ffigyrol.

"Yr oedd ei farn yn gyflym a diwyro, a pharai aeddfedrwydd ei brofiad cerddorol fod beirniadu'n beth rhwydd iddo. Byddai dipyn yn llawdrwm weithiau ar rai cystadleuwyr hunanol, ond y rhai hynny a ddangosai dalent ac awydd am wrtaith, caent bob cymeradwyaeth ganddo a llawer o hyfforddiant yn eu llwybrau cerddorol. Ni chredai mewn gor-ganmoliaeth. Tuedd rhai beirniaid ydyw codi canwr neu gôr i'r fath safle o berffeithrwydd fel nad oes modd eu trechu. Y mae hyn yn gam â hwynt, ac yn rhy dueddol i fagu tô o gerddorion heb uchelgais i fynd ymlaen a chyrraedd nod uwch na chael gwobr mewn cystadleuaeth.

"Yr oedd gan Emlyn gyfoeth o iaith goeth wrth law, ac y mae hyn yn anghenraid i bob beirniad llwyddiannus. Y mae'n rhaid iddo fod yn abl i gyfleu ei resymau dros ei ddyfarniad—ni wna'r tro iddo fyn'd i ddyfalu. Gwelai Emlyn ragoriaeth cystadleuydd ar unwaith. Yr Eisteddfod Genedlaethol olaf y cymerodd ran gyhoeddus ynddi oedd un Caerfyrddin (1911) a hyfryd iawn i mi oedd yr anrhydedd o gydweithio ag ef yn yr ŵyl honno.