Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/205

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Er pwysiced ei waith cyhoeddus, yr oedd ei lafur fel adolygydd yr un mor bwysig, os nad yn fwy felly. Ymhyfrydai yn y gwaith hwnnw, ac nid oes ond y dyfodol a ddengys y dylanwad mawr oedd ganddo ar ddatblygiad Cerddoriaeth Gymreig drwy ei ysgrifau a'i adolygiadau yn Y Cerddor, ac yn ei golofn wythnosol yn y South Wales Weekly News. Nodweddid ei adolygiadau gan ysbryd teg, diwenwyn; gwybodaeth drylwyr o'r hyn a adolygai; llygad i ganfod rhagoriaethau; a chydwybod a feiddiai ddweyd y gwir. Edrychid ymlaen gan bob cyfansoddwr at yr hyn a ddywedai Emlyn am ei weithiau, neu fel yr atgoffai ef yn chwareus, am rywun wedi cyfeirio at ei gyfansoddiadau a anfonid i'r adolygydd, ei weithfeydd.' Yr oedd aml i adolygiad o eiddo Emlyn yn drysor llenyddol, gan goethter yr iaith a dillyndra'r brawddegau."

Y mae Dr. Protheroe, yn y dyfyniad uchod, yn cyffwrdd â phwynt y cysylltai Emlyn bwys mawr ag ef, sef yr angen am brofiad yn y beirniad:

"I gyfarfod â'r alwad am feirniaid i'r gwahano gyfarfodydd hyn fe ddylai fod rhyw foddion mewn bod er partoi dynion cymwys at waith mor bwysig. Ca barnwyr ein llysoedd barn y ddysgeidiaeth oreu pan yn blant, prentisiaeth faith er meistroli ein cyfreithiau, ac yna flynyddoedd o ymarferiad ychwanegol mewn achosion cyfreithiol cyn y codir hwy i'r sedd farnol; ond i eistedd yng nghadair y barnwr Eisteddfodol rhoddir yn fynych berson anwybodus a difoes, ac weithiau bersonau o gymeriadau brycheulyd, ac o gydwybodau rhidyllog iawn. Yn lle dysgeidiaeth, moesgarwch, gonestrwydd, ac unplygrwydd, daw y rhai hyn a bom-