Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/210

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iant yr Ysgol Sul drwy Gymru; ond heno dyma Gôr yr Ysgol Sul wedi bod yn canu i gi 'Bobbi Bingo'—you have gone to the dogs." Cafwyd hwyl fawr, ac ni raid dweyd na ofynnwyd am ragor o feirniadaeth y noson honno. Eto, i ddeall y cwbl, y mae'n rhaid inni gofio'r hyn a ddywed ef ar y mater: "Ar adeg arall, merwinwyd ein clustiau, a digiwyd ein hysbryd, gan gôr o blant Ysgol Sul yn canu am Bobbi Bingo —plant y Beiblau yn canu am gi! Ond nid ar y plant, druain, yr oedd y bai, ond ar y bwyllgor Undeb Ysgolion Sul yn dewis y darn." Dengys hyn nad oblegid ei wendid y siaradai mor llym; oherwydd ei wendid ceisiai ymesgusodi, gan nad oedd yn teimlo'n ddigon cryf i weinyddu'r cerydd a deilyngai'r amgylchiad; yr oedd llymder ei eiriau yn hytrach yn fynegiad i'r boen foesol a cherddorol a deimlai.

Yr oedd rhai pethau—triciau gwael, coegni, haerllugrwydd, anonestrwydd, yn ei wneuthur yn oddaith, a deuai'r goddaith hwnnw allan fel lava yn ei eiriau. Wrth ei farnu, dylem gofio'r gwahaniaeth rhwng eiddigedd moesol a thymer ddrwg. Dywedai'r Athro Edward Caird unwaith fod un mewn tymer ddrwg yn llai na dyn, ond fod hwnnw nad yw byth yn cael ei gynhyrfu gan eiddigedd moesol yn llai na dyn hefyd. Cynrychiolant ddau begwn yn ein profiad—gorthrwm nwyd a llywodraeth delfryd.

Yr hyn a ddymunwn bwysleisio yw nad ei afiechyd oedd tarddell ei ffrwydriadau fel rheol; yr hyn a ellir ddweyd am ei wendid yw ei fod yn ei wneuthur yn llai galluog i ddal gwrthdarawiadau rhwng ei ddelfryd a'r amgylchoedd heb ddangos hynny mewn ffordd mor ffrwydrol. Credwn y buasai ei feirniadaethau yn gryfach a mwy effeithiol pe'n llai brathog, heb fynd