Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfarwydd fel cerddor a'r gerddoriaeth ganlynol, darllened y geiriau yn ofalus. Dim ond y nodau osododd ef oedd yn perthyn i'r geiriau Go baffled coward go!

"Bu hefyd yn amddiffyn Dr. Parry rhag ymosodiadau y brawd chwyddedig hwn, pan safodd Parry fel dyn, drwy beidio â gwobrwyo Cantawd o'i eiddo yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr.

"Yn Eisteddfod Môn, cyn beirniadaeth y prif gorau, dywedodd yr arweinydd am y dydd, oedd yn bur siaradus ei hun, am i Emlyn fod mor fyr ag oedd modd, a chadd yr ateb mewn eiliad: 'Y Meddyg, iacha dy hun.'

"Yn Eisteddfod Genedlaethol Ffestiniog, yr oedd ef a Mr. Wm. Davies yn dethol y Juveniles ar y piano, a minnau'n dethol y Sopranos. Ar oli mi orffen euthum i edrych am danynt i'r ystafell yn ymyl, gan ofyn iddynt yn ddireidus: I am only calling to see how the juveniles are getting on'; ac atebodd Emlyn ar unwaith: This Committee is wise enough not to allow the wolves with the lambs.'

"Ond rhoddodd fy nghyfaill tawel o Lanwrtyd ateb go dda iddo yn Gwalia, Llundain, adeg yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd Mr. Thomas a minnau yn cydfeirniadu â Syr George Macfarren ar y Solo Tenor, a chawsom drafferth gyda'r hen ŵr i beidio â gwobrwyo un a ystyriem ni ein dau yn ail yn y gystadleuaeth. Beth bynnag, llwyddasom i gael ein dyn i ganu'n gyhoeddus gyda'r llall, ac erbyn mynd i'r Neuadd anferth, yr oedd rhagoriaeth ein canwr ni yn fwy amlwg fyth. Ond ni syflai Macfarren; ac ar ol hir daeru, llwyddwyd i rannu'r wobr—yr oedd hynny yn well na dim