Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXIII.
Y GOLYGYDD A'R GOHEBYDD.

O HERWYDD afiechyd a dyletswyddau eraill, gwelsom mai bratiog fu ei gyfnod golygyddol cyntaf ynglŷn â'r Gerddorfa. Yn 1880, cychwynnwyd Cronicl y Cerddor dan ei olygyddiaeth ef gyda chynhorthwy Mr. M. O. Jones, Treherbert. Er mai byr fu hoedl y Cronicl bu'n ffyddlon i'w ddelfryd uchel. Yn ol un beirniad, nid oedd "ei gynhwysiad yn llenyddol a cherddorol yn ail hyd yn oed i'r hen Gerddor Cymreig." Safodd, fel y gallesid disgwyl, dros burdeb cerddorol a beirniadol. Cawn ychydig fewn-welediad i ysbryd yr olygyddiaeth yn y nodyn hwn oddiwrth Emlyn at Mr. D. Lewis, Llanrhystyd:—

Amwythig, Ion. 11, 1882.

"Fy Anwyl Gyfaill,—Da oedd gennyf gael gair oddiwrthych, a deall eich bod yn iach. Da gennyf fod y Cronicl' yn eich boddio; coeliwch fi, nid ychydig ydyw'r llafur a'r bother i'w gael hyd yn nod fel ag y mae. Am fusnes y Gantawd ym Merthyr, nid dewisiad oedd y peth, ond teimlad fod yn rhaid dod allan dros wirionedd yr hyn yn ddiameu oedd gyda Joseph Parry y tro hwn o leiaf—ac yn erbyn celwyddau ———— Ychydig a ddywedasom yn y Cronicl, ac y mae yr ychydig hynny ar ben, fel y nodasom eisoes yn y rhifyn presennol; er hynny, ni fynegwyd mo'r hanner o'r clicyddiaeth cwacyddol gwarthus hwn, a'r gwaradwydd y mae yn ddwyn arnom fel cerddorion Cymreig—poor but honest

.