Gyda llaw eto; ydych chwi wedi gweled 'Music Primers' Novello? Yn fy marn i, nid oes dim wedi ymddangos yn debyg i'r gyfres hon, ac y mae y pris yn chwerthingar o isel, 2/- ac felly yr un. Nid ydwyf wedi gweled dim erioed yn rhagori—o leiaf—ar 'Fugue,' 'Instrumentation,' a 'Double Counterpoint & Canon.' "
*** "Anthemau fydd eisieu fwyaf yn awr ar fwrdd y Cronicl—digon o Ranganau mewn llaw am lawn blwyddyn.
Cofion calon.
D. EMLYN E.
Ni pherthyn i ni fynd i fewn i hanes cystadleuaeth y "Gantawd" ym Merthyr: yr hyn a barai i'r "rheidrwydd i ddod allan dros wirionedd" fod yn boenus oedd y ffaith fod ei hen gyfaill Tanymarian yn gymhlethedig â'r helynt; ac y mae'r ffaith iddo "ddod allan yn dangos mor gydwybodol ydoedd, ac fod cyfeillgarwch yn ail yn ei olwg i wirionedd.
Yn 1880, cychwynnwyd Y Cerddor gan Mri. Hughes a'i Fab., Gwrecsam, dan ei olygyddiaeth ef a Mr. Dd. Jenkins, gyda chydweithrediad Mr. W. M. Roberts. Y mae Mr. Roberts yn gerddor gwych ei hun, a chanddo hawl i siarad ar nodweddion Emlyn fel Golygydd, Gohebydd, a Dyn, ar ol bod mewn cyfathrach mor agos ag ef am gynifer o flynyddoedd, —o 1889 hyd 1913. Wele'i dystiolaeth:
"Mewn cysylltiad o gynifer o flynyddoedd mae dyn yn dod i adnabod, i raddau mwy neu lai, ochr gyfrin cymeriad y sawl yr ymwneir ag ef,