Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/230

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cerddoriaeth yn ein gwlad. Ysgrifennodd gyfres yn Y Cerddor yn cynnwys hanes y rhai mwyaf amlwg yn eu dydd. Nid oedd yn llawdrwm ar eu colliadau—" dydd y pethau bychain" oedd hi arnynt, ac yr oedd ei gydymdeimlad gyda hwynt.

"Nid wyf yn bwriadu cynnyg ei gloriannu fel cerddor, ond dywedodd y diweddar Dr. Joseph Parry wrthyf mai 'Schubert Cymru' oedd Emlyn.

Yr oedd yn ŵr o deimladau tyner; un boreu yr oeddwn newydd gael gair i ddweyd fod R. S. Hughes wedi marw y diwrnod cynt; ac ymhen ychydig digwyddodd i'm cyfaill ddod i'r Swyddfa, a phan dorrais y newydd iddo, yr oedd wedi ei lwyr orchfygu gan deimlad, methai ddweyd yr un gair, tra y treiglai ambell ddeigryn lawr ei ruddiau. Yr oedd yn hoff iawn o R.S.'

"Treuliais lawer awr ddiddan yn ei gwmni, ac mae'n chwith meddwl na cheir rhagor o ffrwyth ei ysgrifbin fel cyfansoddwr na golygydd."

Ynglŷn â golygyddiaeth Y Cerddor dywed yr Athro Jenkins, "nad oes dim un gwelliant ag sydd wedi cael ei ddwyn i sylw gan y cerddorion Seisnig sydd yn ymweled a'n gwlad nad ydyw wedi cael ei draethu yn eglur yn y Cerddor '—pa un ai yn offerynnol neu yn lleisiol, fel canu allan o diwn, a'r tremolo, a dysgu y bobl i ddarllen cerddoriaeth yn y ddau nodiant, a'u diffygion ynglyn a'r Gymanfa Ganu, a'r hen arferiad isel o ddewis yr un darnau, a'r 'her-unawd' niweidiol. Ond i chwi ddarllen Y Cerddor, chwi gewch fod yr holl bethau hyn wedi eu condemnio'n ddifloesgni drwy'r blynyddau."