cysured hyny chwi a'ch priod yn eich dygn drallod, a bydded yn obaith i ninnau oll. Gobeithio fod y rhelyw o'r teulu yn gwella, ac yr arbedir chwi eich hun rhag y clefyd hwn a phob clefyd arall am flynyddau lawer.
"Ein cofion a'n cydymdeimlad dyfnaf,
"Yr eiddoch hyd byth,
"D. EMLYN E."
Ac y mae a ganlyn o'i eiddo at Mr. H. R. Daniel, er o ansawdd gwahanol, eto yn dra "cherddorol." Newydd ddychwelyd yr ydoedd Mr. Daniel o daith ar y Cyfandir gyda Mr. Tom Ellis ac eraill:—
Anwyl Mr. Daniel,—Dylaswn fod wedi ysgrifennu atoch amser lawer yn ol, ond y mae gwahanol bethau wedi fy lluddias nad gwerth myned ar eu hol yn awr. Cefais eich cerdyn o Salzburg, yng Ngheredigion—lle y bum i a'r wraig am ryw 5 wythnos ar ol y Rhyl, a Llandrindod, am yn agos i ddaufis. Hoff Salzburg! Wrth weld y darlun o'r Residenz Platz daeth atgofion lawer am yr hên amseroedd yn ol i fy meddwl. Bum yno fy hun; yr oeddwn yn wael iawn fy iechyd ar y pryd—y corph wedi rhoddi i fyny ymron, ond yr ysbryd yn pallu. Bum yn tario yno am ddeuddydd neu felly, yn rhy wael i gerdded; ond er hynny, bum yn prynu sebon yn y ty lle y ganed Mozart; yn ymweled â'r ty y bu yn byw ynddo—dros yr afon; yn gwrando ac yn chwerthin ar ben yr hen greadur oedd yn dangos creiriau y Mozarteum; ac yn yfed y "Mozart-wein " (tebyg o ran blas, a lliw, i faidd sur, o'r hwn y cefais fwy na yfwn am wythnos am ychydig geiniogau): dyna fwy nag a wnaeth Mr. Ellis, Daniel, a'u cwmni yn