a poor Harry Evans ynghanol anghysur pabell wleb yntau heb fod yn rhy iach er's peth amser. Disgwyliwn ef yma yforu.
"Parth y Caethgludiad," y mae pob tebygolrwydd am i mi gymeryd rhan yn y perfformiad awgrymedig wedi ei setlo bellach, i gryn raddau o leiaf. Ac hyd yn oed pe yn fy iechyd arferol, gofynnwn i chwi fy esgusodi, er fy mod yn dra diolchgar i chwi am eich teimladau da. Gwell gennyf fyddai i'r un gafodd y drafferth i ddysgu'r côr gael yr anrhydedd—hynny a fyddai—i'w arwain hefyd yn gyhoeddus. Felly y gwneuthum yn Rhyl; ac esgusodais fy hun i fyn'd i arwain mewn mannau eraill. Bydd Herbert [Emlyn] yn llawn ddigon galluog i wneud cyfiawnder a'r arweiniad o dan unrhyw amgylchiad.
Mewn cysylltiad a'r peth arall, y 'secret': diolch i chwi eto. Bu Vincent[1] yn siarad a mi fwy na blwyddyn yn ol, ond erfyniais arno i beidio gwneud dim ar y pryd. Er hynny bu Dd. Jenkins yma, ac yn Llandrindod y mis o'r blaen yr oedd y 'Governor' a Mrs. Jenkins yn pwyso arnaf i roi ffordd, fel y gorfu imi ddweyd o'r diwedd y gadawn y peth i benderfyniad y cyfeillion yn Llundain.
"Ein cofion unol atoch oll, Fyth yn ffyddlon,
D. EMLYN E.
- ↑ Syr E. Vincent Evans.