Dyma ddisgrifiad Miss Braddon ohono yn 1875, yn ei nofel Hostages to Fortune:—
"Daw Mr. Evan Jones, y beirniad, ymlaen i'r ffrynt. Dyn bychan a bywiog yr olwg ydyw, tywyll a chraff ei wyneb, a thalcen nid amhroffwydol o fri dyfodol. Dwg len o fiwsig yn ei law, ac yn hon, â manylrwydd didrugaredd, y mae wedi nodi gwallau'r corau cydymgeisiol. Sieryd yn gryno, a chyda math o irony natur dda, nid an-foddhaol i'r dorf, pa mor chwerw bynnag y gall fod i'r ymgeiswyr a feirniada."
Arferai ei fam ddweyd, gyda theimladau cymysg o ofid a balchter, ei fod pan yn ieuanc mor goch a'r rhosyn, ac mor syth a saeth. Ond yn anffodus, darfu i ddamwain drwy chware gyda'i ewythr daflu ei ysgwydd allan o'i lle, ac ymddengys na fu'r meddyg yn hollol lwyddiannus i'w chael yn ol. Mewn canlyniad i hyn, aeth i'r arfer pan yn derbyn sypynau o frethyn o'r silffoedd uchaf yn Siop y Bont, o wneuthur osgo neilltuol er mwyn osgoi'r boen a gynhyrchid yn yr ysgwydd gan y pwysau. Y diwedd fu i'r ysgwydd a'r war ymsefydlu mewn ymgyfaddasiad annaturiol, a barai i'r ysgwydd ar yr ochr dde ymgodi'n fwy a mwy gyda threigliad amser, ac i'r rhannau tan yr ysgwydd wasgu i mewn ar y cylla gan beri annhrefn yno trachefn. Yr oedd hon yn un o groesau'i fywyd, ac yn achosi cryn lawer o'i boenau corfforol hefyd yn ogystal a phoen meddwl. Oherwydd hyn, ynghydag effeithiau ei orlafur yn Cheltenham, fe gollodd ei wrid a'i sythdra. Bychan o gorff fuasai ar y goreu; ond diau ei fod yn un o'r rhai mwyaf byw a fu erioed: yr oedd ganddo ffynnon o ddurwch a barhâi i fwrlymu a llifo drwy bob anhwylder ac