Myfi mewn cyfyng gell,
A thi yn rhyddid pell
Y tragwyddoldeb gwell,
Yn Nuwdod fry;
yna llesmeiriodd i ychydig gwsg, a meddyliem na chaem ei weled byth mwy: gwelsom ef fel hyn ddwsinau o weithiau fel pe byddai ar ein gadael, ond troai yn ei ol yn sydyn i dir y byw, er llawenydd i ni i gyd."
Credwn mai serchowgrwydd ei natur, hyd yn oed yn fwy na'i arabedd a'i fywiowgrwydd meddyliol, a'i gwnâi'n gwmnïwr mor rhagorol. Dichon nad yw ei gyfeillion i gyd yn gwybod ei fod yn swil wrth natur, ond y mae'n ffaith ei fod pan yn hogyn yn mynd dros y gwrych yn aml i osgoi cyfarfod a siarad â phobl. Ond drwy ymrwbio â'r byd, yr oedd i bob diben wedi gorchfygu hyn, er i'r duedd barhau ynddo yn y dwfn o hyd. Yr oedd yn dra hoff o gwmni cydnaws serch hynny; yn gyflym ar fwrw ateb pert ac i'r pwynt; a bu yn nyddiau ei nerth yn dra meistrolgar mewn dadl. Eto credwn fod Mr. Harry Evans yn gwneuthur mwy na thegwch ag ef yn y cyfeiriad hwn, oblegid, er ei fod yn gryf ar ffeithiau, yr oedd mor chwim ei feddwl a'i air fel y byddai'n iawn dweyd amdano, fel y dywed Boswell am Dr. Johnson: pe digwyddai iddo fethu eich saethu, yr ymaflai ym maril y gwn i'ch taro i lawr.
Yr oedd ganddo ewyllys gref: drwy hon, ynghyd a'r durwch y cyfeiriwyd ato uchod, y gallodd ddal i fynd drwy'r gwaith a gyflawnodd yn wyneb y fath rwystrau. Ar ei gefn yn aml y caffai fwyaf o esmwythvd oddiwrth y boen yn y cylla, a phan ar ei