hyd felly, a'i wefusau'n welwlas gan y boen, gwelsom ef yn mynnu ysgrifennu llith ag yr oedd galw amdani. Gwyddom, wrth gwrs, fod hon yn ffordd effeithiol i liniaru poen, os nad i'w orthrechu, a bod Gladstone, yn ol Arglwydd Morley, yn meistroli'r neuralgia drwy fynd i weithio ar Gyllideg yr Aifft; ond y mae eisieu un o ewyllys gref eithriadol i gymryd y ffordd hon o gwbl.
Yr oedd ei gryfder ar yr ochr hon, ynghyda'i wroldeb a'i ymladdgarwch naturiol, yn mynd yn wendid ar brydiau, yn unol â'r egwyddor "too far east is west." Y mae eisieu mwy o gryfder ambell i waith i roddi barn neu ymagweddiad i fyny nag i lynu'n gyndyn wrthynt. Yr oedd yn wrol wrth natur, ond credwn fod yna elfen foesol fel rheol elfen foesol fel rheol yn ei wroldeb, a'i fod yn cael ei ddal i fyny ynghanol cythrwfl, ac yn wyneb bygythion, gan y waedd ei enaid, yr hon a esyd mewn geiriau yn un o'i lythyrau: "Ond OND! Cyfiawnder a saif!" "Fu dim ofn dyn erioed arno," ebe Mr. Jenkins, "yr oedd y cryfaf ei nerve y deuthum i gysylltiad ag ef erioed. Ar ol cystadleuaeth galed, a'r corau'n berwi gan eiddigedd at eu gilydd weithiau, a'r excitement yn fawr, cerddai drwy y dorf ar ol darllen beirniadaeth ddeifiol ar rai ohonynt heb ofn na phryder; er mai bychan ac eiddil oedd o ran corff, eto yr oedd ei nerve fel steel."
Yr oedd iddo gynheddfau meddwl cryfion, a phe'i ganesid yn ddiweddarach, neu pe'r euthai am gwrs o addysg, gallasai raddio'n rhwydd yn y Gwyddorau a'r Celfyddydau yn gystal ag mewn Cerddoriaeth. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, ac yn wleidydd craff; ond ei faes mwyaf cydnaws tu allan i Gerddoriaeth oedd Llenyddiaeth a Hanes. Nid oedd ei wybod-