aeth o Wyddoniaeth boblogaidd agos gymaint ag eiddo'i dad; ond credwn mai'r rheswm am hyn oedd ei gariad at drylwyredd. Meddyliai fwy am uchter a dyfnder nac am led mewn gwybodaeth. Yr oedd yn feistr ar ei gangen ef ei hun, ac yn well ganddo er mwyn hyn gyfyngu ei hunan mewn canghennau eraill. Yr oedd anian y specialist yn gryf ynddo.
Dywedwyd digon eisoes am ei gariad at drylwyredd, ac astudiaeth galed, a dyletswydd y cerddor i wneuthur ei oreu gyda'i waith,—nodweddion a'n harwain at ochr foesol ei fywyd. Gwyddom fod yr artistic temperament yn aml yn ddiffygiol mewn nodweddion moesol cryf. Er fod Emlyn, mewn ysgrif ar "Anfoesoldeb Cerddoriaeth," yn gwadu hyn, y mae yn ddiamheuol wir fod y celfyddwr yn aml yn cael ei gymryd i fyny gan ei gelfyddyd—ffrwd ei gariad yn rhedeg mor chwyrn i un cyfeiriad—nes peri ei fod naill ai'n diystyrru gofynion eraill, neu ynteu'n amddifad o'r gallu i'w canfod. Ond cafodd Emlyn ei gynysgaeddu â greddfau moesol cryfach na'r cyffredin,—yn neilltuol ar ochr gonestrwydd masnachol ac anrhydedd a ffyddlondeb cymdeithasol. Nid oedd dim a âi'n "dân ar ei groen "—a than ei groen hefyd, —fel ymgais i wyro barn, neu lygru sedd y beirniad; ac nid teimlad myfiol mo hyn am fod rhywrai'n ceisio ei brynu ef, canys cynheuai'r fflam yr un mor ffyrnig pan geisid prynu barn ei gydfeirniaid.
Dengys y dyfyniad o'i lythyr at Mr. Tom Price mor bur y mynnai i'r cystadleuydd hefyd fod. Yr oedd ynddo ormod o onestrwydd anrhydeddus hefyd i dynnu gwifrau, enwadol ac arall, i dreio sicrhau swydd iddo'i hun: y mae'n debig yr edrychai ar hyn fel math ar lwgrwobrwyo, am ei fod yn ymyrryd â barn pwyllgorau. Eu ffydd yn ei onestrwydd a'i an-