Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant D Emlyn Evans.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhydedd a barai fod pwyllgorau Eisteddfodol yn aml yn ei gyflogi yn gynghorwr cerddorol iddynt. Nid un mohono ef i gymell ei nwyddau ei hun ar draul bychanu neu ddiystyru'r eiddo eraill. Ni fu'n euog erioed o dreio codi hwyl â'i donau ei hun yn y Gymanfa Ganu—nac o geisio marchog i boblogrwydd gyda'r dorf ar gefn unrhyw dôn hwyliog. Ac fel na fynnai wneuthuY Cerddor iaeth yn eilbeth i hunan—ogoniant, ni fynnai ei gwneuthur ychwaith yn is—wasanaethgar i hunan—elw. Gwnaeth lawer iawn o waith am ddim, neu am dâl bychan. Ar y llaw arall yr oedd yn anrhydeddus yn ei berthynas ag eraill. Ysgrifenna'r Prif—fardd Dyfed ato:

"Goddefwch i mi, heb ddim sebon, ddweyd fod mwy o anrhydedd yn perthyn i chwi nag i neb o'r cantwrs yma. Yr wyf wedi gwneud 'peth wmbreth' o ganeuon o bryd i bryd, i wahanol bersonau, y rhai sydd wedi cyfansoddi cerddoriaeth arnynt, ac yr wyf yn disgwyl tâl ardderchog yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.' Y mae y ffaith hon yn peri fod eich llythyr sylweddol wedi disgyn arnaf gyda graddau o syndod boddhaus a minnau wedi arfer pesgi mor dda ar ddiolchiadau yn unig."

Ac ebe Tafalaw:

"Yr wyf yn diolch i chwi yn fawr iawn am eich Tônau (6) ac yn arbennig am eich haelfrydedd; y mae mor wahanol i'r 'boys' eraill sydd nid yn unig yn gofyn tâl am eu Tônau, ond hefyd yn gwneud sylwadau mean."

Dengys yr hanesyn a ganlyn gan Mr. Tom Price gydymdeimlad sylweddol Emlyn â cherddorion ieuainc:—

"Ar ddechreu fy ngyrfa gerddorol, ac ar y pryd mewn angen mawr am arian, gwelais hysbysiad