bu ynddi oedd un Caerfyrddin yn 1867). Yr oedd yn rhy wan i draddodi beirniadaeth yn hon. Elai mewn cerbyd i'r Eisteddfod—bellter hanner milltir, ond cerddai'n ol ond cael help braich cyfaill.' Yr oedd yn dra hapus ac yn ddigon bachgennaidd i lawenhau yng ngwaith Siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin yn curo Morgannwg yn y cystadleuaethau corawl, ac i fwynhau ysmaldod ei ffrindiau fod Côr Castell-newydd wedi ennill am mai cefnder iddo oedd yn arwain, a nith yn cyfeilio!
Pan yn rhwym i'w dŷ, treuliai ei amser yn dra dedwydd a difyr gyda'i waith: os yr un, yr oedd yn fwy balch na chynt o weld ei gyfeillion yn galw. Ond yr oedd y nychtod a'r boen yn fwy, ac yn mynd yn fwy. Eto, ni roddai i fewn iddynt. Aml yr ysgrif—ennai ei lythyrau ar ei gefn ynghanol yr ing mwyaf. Parhâi i ysgrifennu i Y Cerddor a'r South Wales Weekly News yn dra chyson hyd yn agos i'r diwedd, a gwnaeth gryn lawer o waith golygyddol cerddorol yn ystod y blynyddoedd hyn, megis golygu'r Gem Selection o Alawon Cymru gyda Mr. Tomlyn, Mus. Bac., i Valentine & Sons (1907), a'r Treasury of Welsh Songs i Curwen (1909).
Ond hawdd gweld fod yr ynni naturiol yn cyson dreio, ac y byddai'r traeth heb don na murmur yn y man! Yn Hydref 1912 yr oedd arno awydd eithriadol i ymweld â'i fro enedigol a thŷ ei chwaer—eithriadol, am yr hoffai fynd yno bob amser. Cyn iddo allu mynd, gerwinodd y tywydd er mawr siom iddo ef a siom mwy i'w ffrindiau. Ond ni roddodd ei fwriad i fyny. Buwyd yn meddwl cael modur i'w gludo, gan gymaint ei hiraeth am fynd. Credai'n sicr y ceid tywydd gwell, a thipyn o des cynnar