a mwynder yn Chwefrol. Daeth y tes a'r mwynder, ond ni ddaeth y nerth i'gymryd y daith fel y dis—gwyliai: aeth i'w henfro ac i dŷ ei chwaer yn ei arch.
Yr oedd yn dra hoff o rai o'r llinellau a ganlyn:—
Ar ddolau Glan Teifi mae 'falau prin Mai,
Ar ddolau Glan Teifi mae eirin a chnau,
Ar ddolau Glan Teifi mae rhos o bob rhyw—
Ar ddolau Glan Teifi mae 'nghariad yn byw.
Am ddolau Glan Teifi mae'r gwanwyn yn glaf,
Yn nolau Glan Teifi hir erys yr haf,
Drwy ddolau Glan Teifi daw'r hydre'n llawn lliw,
Ac yno mae eira y gaea'n fwy gwiw.
Ar ddolau Glan Teifi mae'r einioes yn hir,
Ar ddolau Glan Teifi mae henaint yn ir,
Yn nolau Glan Teifi mi hoffwn gael bedd,—
Yn sûon yr afon mi hunwn mewn hedd!
Cafodd yntau ddymuniad y pennill olaf—yr hwn oedd ei ddymuniad ef ei hun,—canys claddwyd ef ym mynwent Llandyfriog, ar lan Teifi, gyda sain cân llu o gyfeillion, oedd fel tyrfa'n cadw gŵyl, Ebrill 24ain, 1913.