Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cymhellodd y Parch, Henry Rees, y llywydd ar y pryd, yr Hynod William Ellis, Maentwrog, i ddweyd gair. Cyfododd yntau ar ei draed, a dywedai ar lawr y capel yn debyg i hyn,— "Y mae rhai yn barnu mai rhyw blaned sydd wedi dyfod yn rhy agos i'r ddaear, ac wedi drygu y llysienyn hwn, sydd yn rhan fawr o gynhaliaeth dyn. Os dyna ydyw yr achos, nis gallem ni yma wneyd dim byd yn well heddyw na threfnu i gyfarfodydd gweddio gael eu cynal trwy y wlad i gyd, i ofyn i'r Hwn sydd yn gallu galw y ser wrth eu henwau, i roddi Ei fys arni. Mi fydd yn gynhwrf anghyffredin yn y nefoedd, pan y bydd plant Duw mewn rhyw gyfyngder mawr ar y ddaear, &c." Ni bu braidd erioed y fath effeithiau ag oedd yn dilyn y sylwadau hyn, ac wrth weled y fath gynhwrf ar y llawr, gofynai y rhai oedd yn y gallery yn methu ei glywed, i'r llywydd ei ail—adrodd. "Fedrai ddim," ebe Mr. Rees, "a phe buasech chwithau yn fy lle i, nis, gallasech chwithau ychwaith ei ail-adrodd."

Nis gellir ychwaith ail-adrodd David Rowland yn hollol fel efe ei hun, oblegid ei fod mor hynod, ac mor wahanol i bob dyn arall. Hyderir, fodd bynag, y caiff y darllenydd lawer o ddifyrwch, a llawer o adeiladaeth wrth ddarllen ei hanes.

R. OWEN.

Pennal, Mai 28ain, 1896.