Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn blentyn ieuanc, pan y rhedai i weithdy Arthur Evan, y blaenor duwiol, am ddiogelwch rhag y mellt a'r taranau; pan yn gwneuthur proffes gyntaf o grefydd; pan yn cyfodi allor deuluaidd yn y teulu yn ngwyneb anhawaderau; pan yn ardystio dirwest, trwy glywed am araeth ddirwestol: Dr. Edwards, y Bala; pan yn parotoi at briodi, ac yn trefnu y gwahoddedigion, dywedai wrth ei ddarpar gwraig ei fod am wahodd Iesu Grist i'r briodas. Ac y mae lliaws ei gydnabod yn gwybod am y rhan ddiweddaf o'i oes, mai ei grefydd oedd yr elfen amlycaf ynddo, a'i bod fel ail natur yn myn'd yn gryfach, gryfach i'r diwedd. Mor bell oedd oddiwrth bob ffug a phob rhith duwioldeb, ac mor llawen fyddai pan y clywai am unrhyw lwyddiant ar deyrnas y Cyfryngwr. Crefydd oedd wrth wraidd ei holl weithredoedd, ac yn gosod gwerth ar ei holl wasanaeth.

Hawdd y gellir dwyn engreifftiau, er dangos fod ei holl natur a'i holl fywyd wedi eu lefeinio gan grefydd. Mewn cyfarfod eglwysig wythnosol yn Mhennal, yn mis Tachwedd, 1891, mater yr ymdrafodaeth oedd, "Y perygl o fod yn ffurfiol gyda chrefydd." Yn nghwrs yr ymddiddan, ebe fe, "'Rwy'n cofio'n dda, yn ystod yr haner blwyddyn cyntaf wedi i mi ddyfod at grefydd, i mi daro ar hen lyfr o waith Baxter, mewn ffair yn Machynlleth yna, ac wedi i mi ei agor, yr hyn a welais gyntaf ynddo oedd, 'Rhybudd i ochel ffurfioldeb gyda chrefydd.' Mi cofiais o byth, ac fe wnaeth y sylw hwaw lawer o les i mi."

Yn yr un cyfarfod eglwysig, adroddai fel yr oedd y dyddiau hyny wedi cael llawer o hyfrydwch iddo ei hun, wrth. ddarllen y benod olaf o'r Epistol at y Philippiaid. "Dear me," meddai, "mae geiriau y Beibl yma yn ardderchog iawn. Fy mrodyr anwyl a hoff, fy llawenydd a'm coron.'" Ac yr oedd ar hyd un diwrnod yn ail adrodd ac yn dysgu allan yr adnod, "Pa bethau bynag sydd wir, pa bethau bynag sydd onest, pa bethau byaag sydd gyfiawn, pa bethau bynag sydd bur, pa bethan bynag sydd hawddgar, pa bethau bynag sydd gymerad-