Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wy, od oes un rhinwedd, ac od oes dim clod, meddyliwch am y pethau hyn." Ac ar ol myned i'r gwely y nos clywyd ef yn profi ei hun, i edrych a fedrai adrodd y rhinweddau a nodid yn yr adnod, yn eu trefn.

Yn un o'r Cyfarfodydd Misol yn Mhennal y cyfeiriwyd atynt eisoes, adroddai ei brofiad crefyddol gyda'r blaenoriaid eraill. "Yr wyf yn gweled fy hun," meddai, "gyda chrefydd erbyn hyn, yn debyg iawn fel y byddwn gyda fy nhad yn dechreu gwnio, pan yn brentis. Wedi gwnio darnau mawr byddai llawer o waith datod ar fy ol, byddai fy nhad yn datod hylltod o fy ngwaith, weithiau yn datod y cwbl fyddwn wedi wnio. Yr ydwyf yr un fath yn union yn awr gyda chrefydd, yn cael llawer iawn o waith datod—datod hylltod—nes y byddaf yn meddwl weithiau y bydd raid i mi ddatod y cwbl."

Yn yr un Cyfarfod Misol hefyd dywedai, ei fod ef ei hun, a'r siop, a'r cwbl i gyd a feddai, yn gysegredig i'r Arglwydd. Gwnaeth sylwadau cofiadwy ar ddiwedd cyfarfod eglwysig yn Mhennal, Chwefror 26, 1891. Y drafodaeth yn y seiat hono oedd, pregethau y Sabboth blaenorol gan y Parch, Robert Jones, Darowen. Ar y diwedd siaradai David Rowland am oddeutu pedwar munyd yn debyg i hyn, "Byddaf fi bob amser yn cael rhyw ollyngdod i fy meddwl, wrth gofio fod Crist wedi cael ei osod yn iawn; Duw ei hun wedi osod. Mae o yn sicr o fod yn ei le felly. O! y mae rhywbeth noble yn hyn, y Duw Mawr wedi ei osod, wedi ei osod yn sylfaen i bechadur i bwyso arni. Mae yn reit sicr o fod yn ei le. Mi glywais yr hen bregethwr Isaac James, wrth weddio mewn Sassiwn yn Machynlleth yma, er's llawer blwyddyn yn ol, yn dweyd fel hyn,—

"Dyma ni yn dyfod atat ti, Arglwydd, yn bechaduriaid mawr, dyledog. Yr wyt Ti wedi gosod dy Fab yn Iawn, ac wedi gorchymyn i ni bwyso arno. Dyma ni yn gwneyd hyny; dyma ni yn rhoi ein hauain iddo; dyma ni yn pwyso arno— rhyngot Ti ag E' bellach.'"