Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un noson seiat rhoddai esboniad ar yr adnod, Salm lxxix. 16, "Yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant." "Yr wyf wedi cael esboniad newydd," meddai, "ar y geiriau hyn, a fy esboniad i fy hun ydyw. Yr oeddwn yn ei ddweyd wrth Mr. Parry yma (un o'i gyd-flaenoriaid, yr hwn ar y pryd a eisteddai wrth ei ochr) ryw ddiwrnod. Yr esboniad ydyw, y bydd y saint yn ymfalchio, yn ymffrostio yn ei gyfiawader Ef. Pan mae'r plant wedi cael dillad nwddion maent mor falched, pwy ond y nhw. Gwelais yr hogyn lawer gwaith, er na byddai ond rhyw gog bach, wedi rhoi ei suit newydd am dano, yn ymsythu, ac yn dweyd ynddo ei hun, 'pwy ond y fi! Gwisg newydd y saint ydyw cyfiawnder. Mor falch ydynt o'u gwisg newydd. Yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.'"

Llawer o sylwadau gwreiddiol, gwerthfawr, cyffelyb i'r rhai a grybwyllwyd, a wnaeth o dro i dro yn y cyfarfod eglwysig cartrefol, y thai, pe buasid wedi ei rhoddi lawr ar y pryd fel y dywedodd ef hwynt, a fuasent yn drysor gwerthfawr. Yn y seiat ar ol y Cyfarfod Misol byddai yn ei elfen yn adrodd yr hanes am dano, neu yn gwrando yr adroddiad, os na byddai ef ei hun wedi bod ynddo. Ni cheid neb byth parotach i gydsynio â phob peth y cytunid arno gan y brodyr yn y Cyfarfod Misol, ac yn y Gymdeithasfa. Ni byddai ei adroddiad ef ychwaith o aml i gyfarfod y byddai wedi bod ynddo yn cyfateb i'w sel, ac weithiau troai y cyfarfodydd hyn y cymerai ef ran ynddynt allan yn ddigon fflat. Ond os byddai ei natur yn ysgafn, a'i ysbryd wedi ei danio, dyna'r pryd y ceid y perlau. Mae yr engreifftiau a nodwyd, fodd bynag, yn dangos fod ei feddwl yn wastadol gyda phethau crefydd, a'i fod o wasanaeth mawr i'r achos crefyddol yn yr holl gylchoedd y troai ynddynt. Yr oedd pawb yn ei oes, ac y mae pawb sydd yn ei gofio, yn unfryd-unfarn am grefydd a duwioldeb David Rowland. Ni choleddai neb y rhithyn lleiaf o amheuaeth yn nghylch ei uniondeb ymhob ystyr. Un o foneddigesau Talgarth Hall a