Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dyma luniai ei holl fywyd, a lefeiniai ei feddyliau, ac a barai i'r daearol blyga i'r ysbrydol. Yr oedd yn ddiysgog ac amhlygedig ymhob egwyddor a dyledswydd, oblegid fel cedrwydden ragorol yr oedd ei wraidd; nid yn y gweryd arwynebol, ond yn y graig odditanodd. Troai yn naturiol yn ei gylch daearol, am fod ei galon yn y nefoedd, a'i enaid wedi angori o'r tu fewn i'r llen. Yr oedd bob amser yn barod i weini i eraill, oherwydd ei fod yn caru dilyn llwybrau yr Iesu, yr hwn a ddaeth i'r byd, nid i'w wasanaethu, ond i wasanaethu.

——————

IV.

Y Parch. E. Vaughan Humphreys, Abermaw.

Un o rai rhagorol y ddaear oedd Mr. Rowland. Mor foneddigaidd ei ysbryd, ac mor siriol a phert yn ei ymadroddion! Pwy all beidio bod a hiraeth am ei gwmni? Llawer cyngor da a gefais i ac eraill o hen students Pennal ganddo.

——————

V.

Y Parch. William Williams, Dinasmawddwy.

Y mae ya chwith iawn genyf feddwl am Bennal hebddo ef. Byddai ei gwmni bob amser ya sirioli a lleshau fy ysbryd. Os byddwn weithiau yn dyfod yna yn lled brudd ac isel fy meddwl, byddwn yn d'od yn ol yn llawen a siriol. Nis gwn am neb yn gallu byw crefydd, a'i dangos yn ateb i eiriau Solomon yn well