Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd clywed hyn yn loes i'm calon. Nid wyf yn credu y byddwn yn meddwl nac yn son cymaint am yr un blaenor ag ef. Rywfodd neu gilydd yr oedd wedi gadael argraff ddofn ar fy meddwl, nid yn unig fel gŵr duwiol diamhenol, ond fel un o'r blaenoriaid mwyaf dyddorol ac athrylithgar y daeth i'm rhan ei adnabod erioed. Yr oeddwn yn hoff o gael dyfod i Bennal i'w weled. Edrychwn ymlaen at hyn fel gwledd, a chwith iawn fydd gweled Pennal hebddo. Ei ysbryd hynaws, ei eiriau ffraeth, ac fel yr oedd crefydd wedi prydferthu ei natur! Gwn eich bod yn teimlo yn drist ar ei ol. Yn enwedig ei anwyl briod, yr hon oedd wedi ei chysylltu yn meddyliau pawb o honom â chymeriad ein hanwyl hen gyfaill. Nid dau ond un oeddynt yn syniad pawb o honom. Y mae yn llawer o beth meddwl nad oes yna yr un gradd o ing, nac ofn yn ei galar. Tywyna gobaith yr efengyl trwy y dagrau. Nid yn unig, yr ydych yn gwybod ei fod wedi myned i'r nefoedd, ond y mae adnabod rhai fel Mr. Rowland yn help i ni gredu fod nefoedd, ac yn rhyw awgrymu fath le sydd yno. O! mor wir foneddigaidd, mor dyner o bregethwyr ieuainc, mor arbenig rhai o'i sylwadau! Yn wir, gallwn wylo gyda y rhai sydd yn wylo heddyw wrth feddwl am dano.

——————

VIII.

Y Parch. T. J. Wheldon. B.A., Bangor.

Yr wyf yn teimlo yn drist iawn glywed am ymadawiad fy hen gyfaill anwyl a hoff. Yr oeddwn yn edrych ymlaen i gael ei gwrdd yn Aberdyfi, yn adeg y Gymanfa, ac yn wir yr oeddwn yn cynllunio pa fodd i gael graddau helaethach o'i gwmni os gellid, pe buasai raid i mi dd'od i Bennal.