Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

X

Y Parch. David Jones, Garegddu.

Difyr iawn ydyw meddwl, os cawn fyned i'r nefoedd, y cawn ei gwmni ef yno. Yno yr aeth David Rowland, at Mr. Humphreys, a Mr. Morgan, a Mr. Williams, Aberdyfi, a nifer mawr o'i hen gyfeillion y cydgerddodd gyda hwynt i dy Dduw gyda hyfrydwch. Bydd Pennal yn lled wag hebddo, gŵr ag sydd wedi anfarwoli yr ardal yn ddigon sicr. Nis gellir meddwl am y pentref heb feddwl am dano ef. O! y mae yn chwith meddwl dyfod yna heb yr hen gyfaill diddan! Bydd gwobr y brawd yma yn fawr iawn. Mor hapus ac mor hyfryd y gwasanaethodd efe yr Arglwydd. Dyma oedd ei byfrydwch beunydd—ei unig ddedwyddwch ar y ddaear..

XI.

Y Parch. Hugh Ellis, Maentwrog.

Y mae ei ymadawiad yn golled fawr, nid yn unig i Bennal, ond i'r holl sir. Yr oedd gwres a goleuni yn perthyn i'w gymeriad. Ni welais neb mwy llawn o gydymdeimlad tuag at bob achos da—neb mwy eang ei galon, a mwy parod i gydfyned â symudiadan yr oes a'r Cyfundeb. Yr oedd ei bresenoldeb, a'i gymdeithas, a'i ffraethineb yn twymno pawb i dymer dda. Yr oedd gwres yn ei haelfrydedd, ac yn ei letygarwch, ac yn enwedig yn ei waith ysbrydol. Diau y goddefwch i mi ei ganmol fel hyn, oblegid yr oeddwn bob amser yn ei edmygu ac yn ei garu yn fawr, a byddaf yn cymeryd hamdden yn awr ac yn y man, byth er pan y gadewais Beanal, i feddwl am ei