bynag, ond yr hyn y gallasem ddisgwyl, gan ei fod mor adnabyddus trwy dde a gogledd Cymru, a chymeriad mor uchel iddo, a lle mor gynes yn mynwes pawb a'i hadwaenai.
—————
XIII
Y Parch. John Williams, B.A., Dolgellau.
Un o rai rhagorol y ddaear mewn gwirionedd ydoedd ef. Yr oedd yn naturiol hawddgar, ac yr oedd crefydd wedi prydferthu ei natur a chyfuniad o rinweddau a'i gwnelai yn un o'r dynion harddaf ei gymeriad o fewn y Sir. Nis gall neb fesur eich colled chwi. Cewch ddiddanwch o gofio na wahenir mo honoch oddiwrtho yn hir—fod dydd i dd'od y cewch gyfarfod eto i gydfwynhau llawenydd yr Arglwydd a wasanaethwyd genych mor ffyddlon—a hyny heb byth ymado mwy. Ond nid colled priod yn unig ydyw y golled, y mae yn golled eglwys, yn golled sir gyfan yn wir, a chylch llawer eangach na hyny o gyfeillion anwyl iddo. Yr ydym oll wedi colli cyfaill, un a lonai ein hysbryd pa bryd bynag y caem fwynhau ei gymdeithas bur a melus. Os bu neb erioed yn dirf ac yn iraidd, yr oedd ef felly, ac yr oedd sylwi ar y mwynhad a roddai ei grefydd iddo yn codi awydd am un gyffelyb.
—————
XIV.
Anmhosibl ydyw i mi ddweyd y teimlad a lanwodd fy mynwes pan ddisgynodd fy llygaid ar y newydd prudd, fod fy hen gyfaill, eich anwyl briod Dafydd Rolant wedi myn'd adref. Gallaf ddweyd, fodd bynag, fy mod o'm calon yn cydymdeimlo