Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

â chwi yn eich galar trwm. Mae'n debyg na bu dau erioed mor wirioneddol un a chwi ill dau. Ond dyma y Chwalwr wedi dyfod i fyny, ac wedi ysgar rhyngoch am dymor. Yr wyf yn cofio Thomas Roberts yn wylnos fy ewythr Simon, yn dweyd wrth fy modryb Anne, "Dyma Siclag wedi myned ar dân gyda chwi, Anne; 'ond Dafydd a ymgysurodd yn yr Arglwydd ei Dduw.' Ymgysurwch chwithau ynddo ef." Nid oes genyf ddim gwell i'w anfon atoch heddyw, yn eich dwfn drallod, na chyngor Thomas Roberts, "Ymgysurwch yn yr Arglwydd eich Duw."

—————

XV.

Mr. Robert Jones, Bethesda, Blaenau Ffestiniog

Clywais yn awr farw yr anwyl a'r hynod Mr. David Rowland. Fe gafodd fraint nad wyr neb ei maint, cael myned at yr Iesu, yr Hwn yr oedd wedi arfer myned ato er's llawer blwyddyn. Gofid a galar wedi ffoi am byth. Ni chaiff ei flino gan un gelyn yn y cnawd nac allan o'r cnawd. Yr ydwyf yn teimlo fod y byd yma yn myned yn dlotach i mi bob blwyddyn. Mae y Cyfarfod Misol a'r Gymanfa yn cael eu tlodi yn fawr. Dynion a llawndra ynddynt yn colli. Fe deimlwch chwithau yn Llwynteg a'r eglwys yn Mhennal wagder mawr.

—————

XVI

Mr. John Jones, Moss Side, Manchester, yn awr o Gaergybi.

Gyda gofid dwys y derbyniais y newydd am farwolaeth yr