Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wrth fyned dros restr y marwolaethau tarawodd fy llygaid ar enw fy hen gyfaill anwyl yn eu mysg, a gallaf eich sterhau i'w weled roddi briw difrifol i fy meddwl, yn gymaint fel ag iddo dynu blas oddiar bob peth am amser, ie, bron ar fyw o gwbl yn y byd hwn, ac ar weled Pennal mwy. Er yr adeg y daethüm gyntaf yna, ryw ddeg mlynedd ar hugain yn ol, y mae presenoldeb fy hen gyfaill wedi ei gysylltu yn fy meddwl mor agos a'r lle, fel prin y gall fod i mi yr un fan mwy ag ydoedd o'r blaen. Chwith fydd dyfod yna a Mr. Rowland oddiyna.

Yr un mis ag y bu ef farw, gwnaethpwyd coffhad parchus am dano yn Nghymdeithasfa Aberdyfi, yr un pryd ag y gwnaethpwyd coffhad am y diweddar Barchedig Dr. Hughes, Caernarfon, a phasiwyd fod llythyr o gydymdeimlad i'w anfon dros y brodyr at Mrs. Rowland. Gwnaethpwyd coffhad helaeth hefyd yn Nghyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, yr hwn a gynhaliwyd y mis dilynol, yn Gorphwysfa, Penrhyndeudraeth, a gorchymynwyd anfon llythyr cyffelyb oddiyno. Wele y llythyr a anfonwyd o'r Gymdeithasfa:—

Wyddgrug, Tachwedd 28ain, 1893.

Anwyl Mrs. Rowland,

Yn Nghymdeithasfa Aberdyfi a gynhaliwyd yr wythnos ddiweddaf, gwnaed coffhad parchus am eich anwyl briod, y diweddar Mr. D. Rowland, ac archwyd i mi ysgrifenu atoch, i ddatgan cydymdeimlad y Gymdeithasfa â chwi yn eich galar a'ch hiraeth. Yr oedd Mr. Rowland ar lawer cyfrif yn sefyll ar ei ben ei hun, ac yn un a hoffid yn fawr gan baw a'i hadwaenai. Cafodd oes faith, a chysegrodd hi i wasanaethu ei Arglwydd yn y cylch y galwyd ef iddo. Arferai letygarwch, yn yr hyn yr oeddych chwi yn dwyn yr iau gydag ef. Ac ni wnai wahaniaeth rhwng y gweision. Rhoddid yr un croesaw i bawb, bychan a mawr, yr ieuanc fel yr hen. Yr oedd yn fen-