Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dith ac yn adnewyddiad i un gael bod yn ei gwmni. Yr oedd ynddo graffder a charedigrwydd hoenus wedi ymblethu yn eu gilydd i'w canfod yn ei gymeriad.

Da oedd genym glywed, pan y daeth y diwedd, fod pob braw wedi ei symud, a'i fod wedi cael mynediad tawel, llon i'w gartref nefol. O funyd dedwydd, ac O ddiwedd dedwydd hefyd! Ein gweddi a'n dymuniad ydyw ar i chwi yn mhrydnawnddydd eich bywyd gael mwynhau llawer o dangnefedd yr efengyl yn eich mynwes, A phan y daw y diwedd, rhodded yr Arglwydd i chwi gael mynediad helaeth i mewn i dragwyddol Deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist.
Caniatewch i mi yn bersonol ddatgan fy nghydymdeimlad mwyaf didwyll â chwi yn eich galar. Byddwn yo teimlo hoffder mawr at Mr. Rowland, a chwith iawn genyf feddwl na welaf ef mwy yn Mhennal.
Gyda chofion parchus,
atoch chwi a Mr. Owen,
Yr eiddoch yn gywir,
JOHN OWEN, YSG.

Mrs. Rowland,

Llwynteg,
Pennal.


Diameu y teimla y darlienydd yn ddiolchgar am y tystiolaethau uchod oddiwrth gynifer o wahanol bersonau, yn lle bod o hyd yn gwrando ar ysgrifenydd yr hanes yn adrodd y cwbl ei hun. Ychydig ydyw y dyfyniadau a roddwyd o lawer o lythyrau cyffelyb. Y mae y tystion sydd yma yn tystiolaethu fel llinellau hydred a lledred y ddaear, yn rhedeg yr un ffordd, yn cytuno yn eu tystiolaeth am ei gymeriad cyffredinol, ac oll yn unfryd-unfarn mai ei grefydd oedd ei ogoniant penaf. Am yr hyn a ddywedant oll yn eu llythyrau, gellir dweyd gyda'r