Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y ddau flaenor yn dadleu dros godi yn y casgliad at y Weinidogaeth—Yn tynu trowsus Mr. Davies yr offeiriad allan—Cranogwen yn gwneuthur tro chwareus—Ei sylw wrth Mr. Holland, A.S., amser etholiad—Ei ddameg wrth areithio adeg etholiad 1885—Y fainc yn tori tra yn siarad yn yr Ysgoldy—Ei Araeth fawr amser sefydlu y Bwrdd Ysgol yn 1874—Ei ffraethineb ef a ffraethineb y Parch Richard Humphreys—Sylw y Proffeswr Henry Rogers am dano

Rhagluniaeth yn clirio y ffordd iddo briodi—Yn dyfod a gwraig i Bennal—Teulu Mary Rowland—Y lle y cyfarfyddasant gyntaf—Y Rhagbarotoad—Ymgynghori â'r teulu—Y trafaeliwr yn dyfod heibio—Sylw Mr. Humphreys a Mr. Thruston—Bys bach y cloc o'i le—Beth fydd swper y pregethwr—Galw arno o'r ardd—Yn cymeryd meddyginiaeth y naill yn lle y llall—Yn barod i briodi yn gynt y tro nesaf—Ar lan y môr yn y Borth—Yn anghytuno oherwydd myned i goncert yn Llandrindod—Dull y ddau o gario busnes ymlaen—Darluniad y Parch. Griffith Williams o garedigrwydd y ddau—Y ty yn llawn o fis Mai i fis Medi—Cân Dafydd a Mari, gan R. J. Derfel

Anfon llythyr i Lundain—Sylw Dr. Lewis Edwards am y Parch. Richard Humphreys—Ei hawl i'r teitl o fod yn athrylithgar—Yn rhagori fel adroddwr Hanesion—Ei gyffelybiaeth am y Parch. Foulk Evans—Y Parch J.Foulkes-Jones, B.A., yn debyg i Iesu Grist—Cyngor i ymwelwyr rhag myn'd at droed y ceffyl yn rhy fuan—Cerdded "part' o ddau blwy' cyn brecwast—Dau gapel yn un yn y mil blynyddoedd—Colli coron wrth enill haner coron—Blaenoriaid yn ready made—Hen Gymro gwledig yn ymweled a Llundain—Pedwar ugain ond un o gynygion i briodi—Chwilio am y bedwaredd wraig—Dewis y crogbren o flaen priodi—'Barr Toss'—Siarad ymysg y rhyw deg—Gwrthod y gwir, a chredu yr hyn nad yw wir—Stay long—Pridd y Puritaniaid—Y cyfiawn yn gofalu am ei anifail—Reducio yn lle introducio—Dymuno i'r gwr fod