Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llawenhai drwyddo pan y clywai am lwyddiant pob dyn byw, yn enwedig y rhai o deulu y ffydd. Ac nid ewyllysio yn unig i blant a phobl ieuainc fyn'd yn eu blaen, fel yr efengyl ar adenydd dwyfol wynt, y byddai ef, ond rhoddai beunydd help llaw iddynt i ddringo i fyny y bryn. Rhoddodd lawer o arian mewn ffordd ddirgelaidd i dlodion, i bersonau mewn cyfyngder, i bregethwyr ieuainc a hen hefyd. Anfonodd o'i logell ei hun aml waith y tâl Sabbothol i bregethwyr fyddent oherwydd afiechyd, wedi methu dyfod i'w taith Sabbothol i Bennal. Y mae llythyrau i'w cael yn y ty ar ei ol, oddiwrth bersonau a dderbyniasant y tal, yn diolch yn wresog am dano. Y mae ei haelioni tuag at y casgliadau Cyfundebol blynyddol yn wybyddus i lawer. Ond rhoddai ef o galon rwydd yr hyn ni wybyddai y llaw aswy, pa beth a wnelai y llaw ddeheu. Haelioni, zel, brwdfrydedd, a chrefyddoldeb, oeddynt yn ddiameu ei ragoriaethau penaf.

RHODDI PARCH I DDYN

Yr oedd yn genad dros y Cyfarfod Misol un adeg yn sefydlu gweinidog ar eglwys. Ymhlith pethau eraill, traethai ar y priodoldeb a'r pwysigrwydd fod pawb yn yr eglwys yn rhoddi parch i'r gweinidog. "Y mae y gweinidog," meddai, "yn teilyngu parch ar gyfrif ei swydd a'i waith. Gwnewch gyfrif mawr o hono, er mwyn ei waith." Hawdd iawn y gallasai ef siarad ar y mater hwn, a hawdd iawn oedd gwrando arno, oblegid gwyddai pawb a'i hadwaenai, nad oedd neb yn yr holl wlad parotach nag ef, i roddi parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus, yn enwedig gweinidogion yr efengyl, y rhai a barchai ef a pharch mawr ar gyfrif eu gwaith. "Rhoddwch barch i'ch gweinidog," meddai. Ac ychwanegai, "Y mae pawb ond rhai hollol ddiwerth yn parchu dyn. Mae yr anifeiliaid uwchaf yn talu gwarogaeth i ddyn. Bob amser, cilia y ceffyl a'r fuwch