Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oddiar lwybr dyn, iddo gael y ffordd yn rhydd. Ond nid felly y gwybedyn, Nid oes dim gwyleidd-dra na pharchedigaeth yn perthyn i hwnw. Yn lle cilio yn barchus o ffordd dyn, disgyna y gwybedyn yn ddigon digywilydd ar ei wyneb, i'w flino. Dynion diwerth iawn sydd yn peidio parchu dyn fel dyn. Rhoddwch barch iddo fel dyn, fe ddangoswch felly fod rhywbeth ynoch chwi eich hunain. Ond uwchlaw pob peth, rhoddwch barch iddo fel eich gweinidog, er mwyn ei waith."

PROFIAD AR WELY ANGAU

Yr oedd wedi bod un tro yn gwrando pregeth gan y Parch. Joseph Thomas, yn Nghyfarfod Misol Corris, ac wedi dyfod i'r ty lle y lletyai, soniodd ar unwaith am y bregeth, yn yr hon yr oedd sylwadau wedi eu gwneuthur o berthynas i brofiadau gwahanol ddynion duwiol ar wely angau. Ac meddai, "Yr wyf fi o'r farn na ddylid barnu ystâd crefydd dyn bob amser oddiwrth ei brofiad isel ar wely angau. Y mae gan natur yr afiechyd y bydd dyn ynddo ddylanwad mawr ar ei brofiad. Weithiau bydd yr afiechyd o natur bruddglwyfus, ac y mae gan y pruddglwy y fath ddylanwad ar ddyn, fel y mae yn edrych ar bob peth gydag ofn a phryder, ie, hyd yn nod ar y pethau ag yr oedd wedi arfer credu a gobeithio ynddynt am ei fywyd."

FEL BLAENOR EGLWYSIG

Yr oedd Dafydd Rolant yn meddu cymwysder neillduol i gymeryd rhan yn yr arweiniad, i gario achos crefydd ymlaen. Yr oedd ei gymeriad a'i ysbryd yn wastad mewn cydgordiad & phethau crefydd. Byddai bob amser yn barod, o ran dim a wnelai i'r gwrthwyneb, i ymgymeryd â dyledswyddau ysbrydol yr efengyl. Yr oedd mor barod ei ymadrodd, ac mor llawn o wybodaeth Feiblaidd a buddiol. Yr oedd y pellaf un oddiwrth