Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

law i raddau gormodol, heb ystyried fod oedran a phwysau cymeriad yn gymwysder bob amser i arwain mewn cymdeithas. Yn amser y Diwygiad 1859, a'r amser y bu у Parch. Richard Humphreys yn preswylio yn Mhennal, y dechreuodd Dafydd Rolant ddyfod yn amlwg. Creodd y ddau amgylchiad hyn gyfnod newydd yn ei fywyd.

CYSONDEB YN MODDION GRAS

Rhagoriaeth fawr arall ynddo fel blaenor oedd, ei gydwybodolrwydd i fod yn gyson yn moddion gras. Mynychai bob moddion gyda chysondeb, heb fod yn ail i neb, oddiar deimlad o ddyledswydd, yn gystal ag oherwydd y mwynhad a gaffai yn ddynt. Byddai bob amser yn mhob moddion, haf a gauaf, Sul, gwyl a gwaith. Ychydig iawn o eithriadau a fu yn ei oes, os byddai rhyw foddion yn y capel, na byddai yn cau y siop, ac yn myned yno o ganol pob trafferthion. Gellir yn briodol ddweyd am dano, fel y dywedodd Glan Alun am Angel Jones, y Wyddgrug,—

" 'Roedd Angel i ni fel y coed
Yn rhan o'r Capel Mawr."

Yn ei ffyddlondeb i ddilyn moddion gras, rhoddodd esiampl i holl flaenoriaid a holl aelodau y Methodistiaid.

CYNULLEIDFA FAWR YN EI DYNU ALLAN I SIARAD,

Yr oedd yn ŵr a lanwodd le mawr yn y rhan Orllewinol o Sir Feirionydd. Perthynai iddo lawer o allu fel siaradwr cyhoeddus. Gallu i drin dynion, ac i wneuthur sylwadau a gyrhaeddent hyd adref. Pan elwid arno i anerch cynulleidfa, byddai pawb yn glust i gyd, ac yn dra boddhaus yn gwrando.