Tudalen:Cofiant Dafydd Rolant Pennal.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dilynol. " Yr oeddwn yn gwybod yn dda," ebe David Rowland , "pan welsom Dr. Charles yn dyfod y boreu hwnw, y caem Sabboth da, ac ni chawsom ein siomi. " Ysgrifenwyd crynhodeb o'i anerchiad yn Nghymdeithasfa Caergybi ar y pryd, ac fel y canlyn y mae:—

"Y mae yn hawdd iawn i mi allu dwedyd am Dr. Charles yma, ac y mae yn beth mawr cael gwrthddrych fel hyn i allu dweud amdano. Pan y byddwn yn siarad am rai wedi ein gadael, ni ddaliant i son am danynt yn hir. Ond fe ddeil y gwrthddrych yma i droi o'i amgylch bob ochr. Gellir edrych bob ochr; ïe, a'i daro i edrych pa fath swn sydd ganddo, ac i gael gweled a yw yn eiddo iawn. Y mae ei ddysgeidiaeth yn hysbys i ni oll—fe greodd gyfnod newydd yn y wlad. Yr oedd un hen gadben o Aberdyfi yn dywedyd wrthyf ei fod yn myned yn blentyn yn ymyl Dr. Charles pan y byddent yn siarad am forwriaeth.

Gyda ni yn Pennal y pregethodd ei bregeth olaf. Fe ddaeth acw yn ffyddlawn o Aberdyfi, er ei bod yn fore oer, ond cafodd bob peth allasem wneyd iddo tuag at ei helpu. Disgynodd wrth y ty acw, a deallais ar ei ysbryd y funyd y gwelais ef ei fod yn yr ysbryd i bregethu efengyl y deyrnas. Deallais oddi wrth ei wyneb a'i ysbryd ei fod yn yr hwyl i bregethu. Yr oeddwn yn dywedyd wrthyf fy hun ei fod yn sicr o bregethu yn dda i ni, ac felly y bu. Ei destyn y boreu oedd, " Nac ofna, braidd bychan; canys rhyngodd bodd i'ch Tad roddi i chwi y deyrnas." A'r nos, " Ond tydi pan weddiech, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel, a'th Dad yr hwn a wel yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg." A'r hyn oeddwn yn ddywedyd wrthyf fy hun yn nghongl y sêt fawr oedd, dyma'r dyn mwya cymwys i fyned i'r nefoedd a welais i erioed. Yr oeddwn yn meddwl am dano ar ol hyny, a dyma yr hyn oeddwn yn feddwl oedd efe wedi ei ddysgu, ymwadu âg annuwioldeb, ymwadu â chwantau